
Rheolwr Ymgysylltu Digidol TSSW
Barod i gymryd yr awenau? Rydym yn chwilio am Reolwr Ymgysylltu Digidol TSSW uchelgeisiol a chreadigol i gymryd meddiant o, a datblygu presenoldeb digidol Cefnogi Trydydd Sector Cymru (TSSW).
Mae hon yn rôl allweddol, a chi fydd y grym y tu ôl i’n platfformau digidol hanfodol, gan sicrhau eu bod yn adnoddau pwerus sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr ac yn cefnogi gwydnwch a llwyddiant trydydd sector bywiog Cymru. Os ydych chi’n barod i ddefnyddio eich sgiliau i hybu newid positif, rydym eisiau clywed gennych chi!
Rheolwr Ymgysylltu Digidol TSSW
Categori Cymraeg: Dymunol
Llawn amser, 35 awr yr wythnos yn hyblyg
Cyflog: £39,337 yn cynyddu i £44,274 y flwyddyn. Y cyflog cychwynnol fydd £39,337 a byddwch yn symud drwy’r amrediad cyflog yn unol â chwblhau’r cyfnod prawf a’n proses adolygu perfformiad yn llwyddiannus. Bydd cyfraniad o 9% o gyflog blynyddol y swydd yn cael ei roi yng nghynllun pensiwn cymeradwy CGGC.
Lleoliad: Yn CGGC, rydym yn croesawu gweithio hybrid a hyblyg. Mae ein staff yn gweithio’n hyblyg ar hyd a lled Cymru a bydd gennych chi’r opsiwn i weithio o bell (gan gynnwys gartref) neu yn ein canolfannau swyddfa yn Aberystwyth a Chaerdydd, a ledled Gogledd Cymru yn llogi mannau cymunedol bach i ddod â’r staff ynghyd. Bydd angen dod i’n swyddfeydd o bryd i’w gilydd ar gyfer digwyddiadau staff a galwadau gwaith penodol.
Ynglyn â’r rôl hon
Mae hwn yn gyfle allweddol i lunio ansawdd, hygyrchedd a gwelededd platfformau digidol TSSW. Byddwch yn arwain y gwaith o gyd-gynhyrchu strategaeth ar gyfer y cynnwys, prosesau golygyddol, ymgysylltu â defnyddwyr, gwelliannau i systemau a gweithgareddau marchnata, gan sicrhau bod ein platfformau yn effeithiol, yn gynhwysol ac yn canolbwyntio ar y defnyddwyr:
· Cyllido Cymru - https://funding.cymru/cy/ · Hwb Gwybodaeth - https://knowledgehub.cymru · Gwirfoddoli Cymru - https://volunteering-wales.net/cy · Infoengine - https://infoengine.cymru/?lang_redirect=true · Gwefan TSSW - https://thirdsectorsupport.wales/cy/
Trwy weithio’n agos gyda phartneriaid a rhanddeiliaid, bydd y rôl hon yn sicrhau bod platfformau digidol TSSW yn llawn cynnwys, yn berthnasol i ddefnyddwyr, ac wedi’u
dylunio mewn modd sy’n canolbwyntio ar hygyrchedd. Bydd y platfformau yn grymuso mudiadau gwirfoddol, gwirfoddolwyr a rhanddeiliaid ehangach i gael mynediad hawdd at y cymorth, yr wybodaeth a’r cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i ffynnu.
Byddwch yn hyrwyddo adborth a mewnwelediad defnyddwyr er mwyn hysbysu gwelliant parhaus – gan sicrhau bod y platfformau yn datblygu mewn ymateb i anghenion a phrofiadau go iawn.
Yn y pen draw, mae’r rôl hon yn allweddol i gynyddu cyrhaeddiad ac effaith platfformau digidol TSSW, gan gryfhau gwydnwch mudiadau gwirfoddol ledled Cymru.
Bydd y deiliad swydd hwn yn gweithio ar ran TSSW, ond yn cael ei gyflogi gan CGGC, gan adrodd drwy sianeli llywodraethu priodol TSSW.
Bydd y deiliad swydd yn gweithio’n agos gydag arweinwyr gwasanaeth pynciau perthnasol hefyd: y Rheolwr Gwirfoddoli, Rheolwr Dysgu a Digwyddiadau, Rheolwr Adnoddau Cynaliadwy, Rheolwr Llywodraethu a’r Rheolwr Diogelu.
Pam gweithio yn CGGC
Buddion: Mae’r rhain yn cynnwys 25 diwrnod o wyliau â thâl ynghyd ag wyth gwyl banc a phum diwrnod disgresiwn, Cynllun Pensiwn Personol, Rhaglen Cymorth i Weithwyr, Cynllun Tâl Salwch uwch, gweithio hyblyg, cynllun arian gofal iechyd.
Rydym yn fudiad sy'n croesawu amrywiaeth. Mae gennym bolisïau rhagorol er mwyn cael cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, caiff gweithio hyblyg ei hybu, a’n diwylliant yw meithrin staff drwy arweinyddiaeth effeithiol a gwaith tîm rhagorol. Rydym yn falch o fod yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd.
Mae CGGC yn buddsoddi yn ei gyflogeion a'u datblygiad. Yn ogystal â bod yn Gyflogwr Cyflog Byw sy’n ymrwymedig i dalu'r cyflog byw gwirioneddol i staff, mae CGGC wedi derbyn achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl.
Rhagor o wybodaeth am weithio i CGGC.
Darllenwch y disgrifiad swydd llawn https://www.recruit3.org.uk/downloads/baj/Job Descrption TSSW Digital Engagement Manager w.pdf
SUT I YMGEISIO
I ymgeisio, lawrlwythwch y pecyn cais isod:
Gwybodaeth ddefnyddiol https://www.recruit3.org.uk/downloads/baj/Useful Information Welsh 2025 C.pdf
Hysbysiad preifatrwydd https://www.recruit3.org.uk/downloads/Bake/Recruitment Privacy Notice 2019.pdf
Ffurflen gais https://www.recruit3.org.uk/downloads/baj/Recruitment Privacy Notice Welsh 2019 C.pdf
Dyddiad cau: 10 Medi 2025 – canol dydd
Dyddiad cyfweliad: 29 Medi 2025
Croesawir ceisiadau Cymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
![]() | ![]() | ![]() | ![]() |
