Swyddog Cymorth Cyfathrebiadau Digidol
Rydyn ni’n chwilio am unigolyn brwdfrydig a chreadigol i ymuno â’n tîm cyfathrebu a marchnata dynamig fel ‘Swyddog Cymorth Cyfathrebiadau Digidol’ CGGC.
Rydyn ni’n chwilio am siaradwr Cymraeg i ymuno ag CGGC fel Swyddog Cymorth Cyfathrebiadau Digidol. Mae hwn yn gyfle rhagorol i rywun sydd eisiau dechrau ar yrfa mewn cyfathrebu a marchnata. Mae hefyd yn gyfle i unrhyw un â sgiliau pobl cryf i wneud defnydd da ohonynt drwy helpu CGGC i gyflawni ei ddiben – i alluogi mudiadau gwirfoddol yng Nghymru i wneud mwy o wahaniaeth gyda’i gilydd.
Pam gweithio gyda CGGC
Mae ein buddion staff yn cynnwys 25 diwrnod o wyliau â thâl ynghyd ag wyth gwyl banc a phum diwrnod disgresiwn, Cynllun Pensiwn Personol, Rhaglen Cymorth i Weithwyr, cynllun tâl salwch uwch, gweithio hyblyg a chynllun arian gofal iechyd.
Rydym yn fudiad sy'n croesawu amrywiaeth. Mae gennym bolisïau rhagorol er mwyn cael cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, caiff gweithio hyblyg ei hybu, a’n diwylliant yw meithrin staff drwy arweinyddiaeth effeithiol a gwaith tîm rhagorol.
Mae CGGC yn buddsoddi yn ei gyflogeion a'u datblygiad. Yn ogystal â bod yn Gyflogwr Cyflog Byw sy’n ymrwymedig i dalu'r cyflog byw gwirioneddol i staff, mae CGGC wedi derbyn achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl.
Rhagor o wybodaeth am weithio i CGGC.
Categori Cymraeg: Hanfodol – Lefel Uwch
Llawn amser, 35 awr yr wythnos yn hyblyg
£27,101 yn cynyddu i £29,043 y flwyddyn ar ôl cwblhau cyfnod prawf yn llwyddiannus.
Cyfnod penodol o 12 mis – gyda’r posibilrwydd o estyniad
Mae CGGC yn cyfrannu 9% o’ch cyflog blynyddol i’w gynllun pensiwn cymeradwy.
Lleoliad ac hyblygrwydd: Yn CGGC, rydym yn croesawu gweithio hybrid a hyblyg. Mae ein staff yn gweithio’n hyblyg ar hyd a lled Cymru a bydd gennych chi’r opsiwn i weithio o bell (gan gynnwys gartref) neu yn ein canolfannau swyddfa yn Aberystwyth a Chaerdydd, a ledled Gogledd Cymru yn llogi mannau cymunedol bach i ddod â staff ynghyd. Nid oes unrhyw ddiwrnodau swyddfa gorfodol y tu hwnt i gyfarfodydd allweddol a gofynion penodol y tîm.
Ynglyn â’r rôl
Mae hwn yn gyfle cyffrous i unigolyn creadigol a brwdfrydig weithio gyda’n tîm cyfathrebu a marchnata dynamig. Byddwch chi’n cael profiad gwerthfawr o weithio gyda’n harbenigwyr yn y diwydiant ar ymgyrchoedd amlgyfrwng at ddibenion a chynulleidfaoedd amrywiol.
Mae’r rôl yn ddelfrydol i rywun sy’n dymuno dechrau ar yrfa yn y maes cyfathrebu a marchnata. Os oes gennych chi sgiliau pobl ac ochr greadigol, mae’r swydd hon yn rhoi digonedd o gyfleoedd i chi ehangu a datblygu eich sgiliau, wrth ddylunio cyfathrebiadau diddorol i gefnogi a hyrwyddo’r sector gwirfoddol yng Nghymru.
Bydd rhai o’ch prif ddyletswyddau yn cynnwys:
- Datblygu, gweithredu a gwerthuso cyfathrebiadau ar gyfer platfformau amrywiol, gan gynnwys ein gwefan, sianeli cyfryngau cymdeithasol ac e-gylchlythyrau
- Gweithio gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol gwahanol i ganfod cyfleoedd i greu cynnwys diddorol sy’n hyrwyddo gwaith y sector gwirfoddol
- Cyfrannu at y gwaith o gynllunio cyfathrebiadau a marchnata er mwyn sicrhau mai’r un yw ein llais yn Gymraeg a Saesneg
Byddwch chi hefyd yn gweithio’n agos gyda thimau eraill CGGC a chyda phartneriaid allanol, lle byddwch chi’n cael cyfle i weld yr holl brosiectau gwahanol a chyffrous rydyn ni’n gysylltiedig â nhw. Byddwch chi’n clywed o lygad y ffynnon (ac yn helpu i adrodd) straeon hollol ysbrydoledig elusennau a grwpiau gwirfoddol ledled Cymru.
Mae’r swydd hon yn amrywiol iawn, ac nid yw’r un dau ddiwrnod yr un fath. Mae hon yn rôl hynod o werth chweil ar gyfer unigolyn trefnus ac uchel ei gymhelliant sy’n hoffi her ac eisiau defnyddio’i sgiliau i wneud cyfraniad positif at y sector gwirfoddol yng Nghymru.
I wneud cais ewch: https://webrecru.it/1j3f1q
Dyddiad cau: 9 Ebrill 2026
Dyddiad cyfweliad: 21 & 24 Ebrill 2026
Croesawir ceisiadau Cymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.