
Swyddog Cymorth Cyfathrebu, Amser llawn
Rydyn ni’n chwilio am unigolyn brwdfrydig a chreadigol i ymuno ag CGGC fel ein Swyddog Cymorth Cyfathrebu newydd.
Mae hwn yn gyfle gwych i rywun sy’n frwd am adrodd storïau a dathlu effaith mudiadau gwirfoddol ledled Cymru. Byddwch yn helpu i roi sylw i’r gwaith anhygoel sy’n cael ei alluogi gan ein rhaglenni grantiau a benthyciadau, yn ogystal â’n partneriaethau cynyddol â busnesau a mudiadau o’r sector gwirfoddol.
Os oes gennych ddawn am greu cynnwys cymhellgar, yn mwynhau cydweithio ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth drwy gyfathrebu, byddem ni’n dwli clywed gennych chi.
Pam gweithio yn CGGC
Mae ein buddion staff yn cynnwys 25 diwrnod o wyliau â thâl ynghyd ag wyth gwyl banc a phum diwrnod disgresiwn, Cynllun Pensiwn Personol, Rhaglen Cymorth i Weithwyr, Cynllun Tâl Salwch uwch, gweithio hyblyg a chynllun arian gofal iechyd.
Rydym yn fudiad sy'n croesawu amrywiaeth. Mae gennym bolisïau rhagorol er mwyn cael cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, caiff gweithio hyblyg ei hybu, a’n diwylliant yw meithrin staff drwy arweinyddiaeth effeithiol a gwaith tîm rhagorol. Rydym yn falch o fod yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd.
Mae CGGC yn buddsoddi yn ei gyflogeion a'u datblygiad. Yn ogystal â bod yn Gyflogwr Cyflog Byw sy’n ymrwymedig i dalu'r cyflog byw gwirioneddol i staff, mae CGGC wedi derbyn achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl.
Rhagor o wybodaeth am weithio i CGGC.
Swyddog Cymorth Cyfathrebu
Categori Cymraeg: Dymunol
Llawn amser, 35 awr yr wythnos yn hyblyg
Cyflog: £27,101 yn codi i £32,323 y flwyddyn
(Mae CGGC yn cyfrannu 9% o’ch cyflog blynyddol i’w gynllun pensiwn cymeradwy.)
Lleoliad: Yn CGGC, rydym yn croesawu gweithio hybrid a hyblyg. Gyda’n staff yn gweithio’n hyblyg ar hyd a lled Cymru, bydd gennych chi’r opsiwn o weithio o bell (gan gynnwys gartref), yn ein canolfannau swyddfa yn Aberystwyth a Chaerdydd, neu ledled Gogledd Cymru mewn mannau cymunedol bach. Bydd angen dod i’n swyddfeydd o bryd i’w gilydd ar gyfer digwyddiadau staff a galwadau gwaith penodol.
Ynglyn â’r rôl
Fel ein Swyddog Cymorth Cyfathrebu, byddwch chi’n:
- Creu cynnwys ysgrifenedig a gweledol cymhellgar sy’n dangos effaith gwaith CGGC.
- Cynllunio ac amserlennu cynnwys digidol diddorol i hyrwyddo storïau o arloesedd a chydweithio.
- Gweithio’n agos gyda chydweithwyr i gofnodi a rhannu storïau o lwyddiant gan brosiectau a phartneriaethau a gyllidwyd.
- Cefnogi’r gwaith o ddarparu cynlluniau cyfathrebu ac ymgyrchu ar gyfer grantiau, benthyciadau a mentrau partneriaeth.
- Cynnal a diweddaru cynnwys y wefan a chyfryngau cymdeithasol, gan sicrhau ei fod yn hygyrch, yn cadw at ein brand ac yn ystyried y gynulleidfa.
- Helpu i fonitro perfformiad a chasglu mewnwelediadau er mwyn asesu effeithiolrwydd ymgyrchoedd.
Mae hwn yn gyfle gwych i gynyddu eich sgiliau cyfathrebu mewn amgylchedd tîm cefnogol a chydweithredol, a gwneud gwahaniaeth go iawn i fudiadau gwirfoddol ar hyd a lled Cymru.
Darllenwch y disgrifiad swydd llawn.
SUT I YMGEISIO
I ymgeisio, lawrlwythwch y pecyn cais isod:
Dyddiad cau: 28 Hydref – 10am
Dyddiad cyfweliad: 10 Tachwedd
Croesawir ceisiadau Cymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
![]() | ![]() | ![]() | ![]() |
