To Advertise your vacancy contact tim.deeks@canopymedia.co.uk
Sut i ddod o hyd i rôl yng Nghymru yn y trydydd sector yn 2019 - English Translation Below Mae mudiadau trydydd sector fel mentrau cymdeithasol, elusennau a grwpiau gwirfoddol a chymunedol yn chwarae rhan ganolog yn cynnal cymdeithas Cymru. Ychydig iawn o sectorau eraill sy’n rhoi gymaint o foddhad mewn swydd â’r un yma. Serch hynny, mae mudiadau trydydd sector bob amser dan bwysau i sicrhau arian. Oherwydd hyn, maent yn aml yn wynebu diffyg sgiliau – sy’n golygu ei bod yn bwysicach nag erioed i unigolion sy’n meddu ar wahanol sgiliau ymuno â’u rhengoedd. Ar ben hynny, mae dros 30,000 o elusennau cofrestredig ar waith yng Nghymru, felly mae peth wmbreth o fudiadau i chi ddewis ohonynt yn 2019. Nod y canllaw hwn yw amlinellu popeth y mae angen i chi ei wybod am weithio yn y trydydd sector yng Nghymru a sut i ddod o hyd i’r rôl berffaith. Gofyn y cwestiynau pwysig i chi’ch hun Pam rydych wedi dewis y sector hwn? Er y gall gweithio i fudiadau nad ydynt er elw roi llawer iawn o foddhad, bydd angen i chi benderfynu ar beth yr hoffech ganolbwyntio er mwyn canfod y rôl gywir i chi. Cofiwch, nid arian yw prif ysgogiad y trydydd sector fel llawer o sectorau eraill. Mae angen pwyso a mesur eich opsiynau – efallai wir fod elusennau’n cynnig cyfradd cyflog sy’n is na chyfradd y farchnad, ond maent yn aml yn fwy hyblyg yn eu polisïau gweithio. Pa fudiad sydd o’r diddordeb mwyaf i mi? Nawr eich bod wedi penderfynu bod y trydydd sector yn addas i chi, gallwch ddechrau meinhau’ch opsiynau. Mae mudiadau trydydd sector fel arfer yn cael eu harwain gan werthoedd a’r dyhead i gyflawni amcanion cymdeithasol, megis gwella lles y cyhoedd, yr amgylchedd neu les economaidd. Fel unrhyw sector arall, dylech ddod o hyd i swydd rydych yn ei charu. Yr unig wahaniaeth yw bod unrhyw elw y mae’ch mudiad yn ei wneud yn cael ei roi i eraill fel arfer. Byddwch yn gweithio tuag at amcanion cymdeithasol ac yn byw’n unol â gwerthoedd eich mudiad. Mae gweithio yn y sector hwn, wrth ei natur, yn ymdrech cydweithredol. Gall hyn olygu gweithio oriau hir i gyflawni amcanion heriol. Os ydych yn dangos eich bod yn fodlon torchi llewys, bydd eich ymdrechion yn cael eu gwobrwyo. Bydd cyfle i chi gynnig syniadau, gan fod llawer o le i fod yn greadigol wrth roi ffyrdd arloesol o weithio ar waith. Pa fudiad bynnag yr ydych yn dewis ymgeisio iddo, ewch i’ch cyfweliad yn llawn brwdfrydedd a syniadau. Bod yn hyblyg Mae’n naturiol cael eich denu at elusennau yr ydych yn teimlo cysylltiad personol â nhw, ond fel unrhyw swydd, nid yw hyn bob amser yn bosib. Mae’r trydydd sector yn fawr, felly ystyriwch beth fyddech yn fodlon rhoi cynnig arno i ennill profiad. Gallai gweithio mewn sector penodol hyd yn oed agor eich llygaid at gyfleoedd annisgwyl. I wella’ch siawns o sicrhau rôl, ymchwiliwch i ba elusennau sy’n derbyn mwy o arian gan y llywodraeth ar hyn o bryd. Er enghraifft, mae llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn ystyried digartrefedd yn fater o bwys mawr i’r wlad. Mae elusen pobl a thai Cymru, Shelter Cymru, yn gwneud llawer iawn o waith i drechu digartrefedd. Yn wir, mae’n llunio polisïau digartrefedd yn unol ag egwyddor ‘Tai yn Gyntaf’, gan ddilyn llwyddiant Helsinki gyda’r cynllun arloesol. Hyd yn oed os nad yw’r mudiad yn berffaith i chi, byddwch o leiaf wedi ennill profiad gwerthfawr mewn marchnad gystadleuol. Rhwydweithio Fel yr â’r hen ddywediad, pwy yr ydych yn ei adnabod sy’n bwysig. Cysylltwch â’r bobl yr ydych eisoes yn eu hadnabod yn y trydydd sector i weld a allant fod o gymorth. Wrth gwrs, efallai na fyddant yn gallu sicrhau swydd i chi’n syth, ond mae cyfle i wirfoddoli hyd yn oed yn ffordd dda o greu cysylltiadau a dod i adnabod pobl yn y sector. Os gwnewch argraff dda ar weithwyr proffesiynol sydd â blynyddoedd o brofiad yn y sector, bydd gennych eisoes droed yn y drws. Wrth gysylltu i ofyn am ffafr, serch hynny, peidiwch â neidio’n syth i’r pen dwfn. Eglurwch eich achos yn glir:
Os nad ydych yn adnabod neb mewn mudiad trydydd sector, byddwch yn greadigol. Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn ddefnyddiol iawn i ehangu’ch cyrhaeddiad, felly beth am geisio rhwydweithio ar LinkedIn neu wefannau eraill. I gael y newyddion diweddaraf gan fudiadau dilynwch nhw ar y cyfryngau cymdeithasol. Neu, beth am ddod draw i ddigwyddiadau rhwydweithio elusennol fel gofod3? Mae’r dewisiadau’n ddiddiwedd. Gwnewch yn fawr o unrhyw gysylltiadau yr ydych yn eu creu a pheidiwch ofni bod yn ddigywilydd! Croeso i’ch gyrfa newydd! Unwaith i chi ddod o hyd i’r rôl ddelfrydol i chi, torchwch eich llewys ac ewch amdani. Y tu hwnt i’r teimlad o fod eisiau ‘gwneud rhywbeth gwerth ei wneud’, mae wir angen i chi ddangos eich ymroddiad i’r achos. Os gallwch wneud hyn, bydd eich gyrfa yn y trydydd sector yn siwr o lwyddo.
How to find a role in Wales in the third sector in 2019 Third sector organisations (TSOs) such as social enterprises, charities and voluntary and community groups play a pivotal role in sustaining Welsh society. There are few other sectors out there with the same level of job satisfaction as this one. However, third sector organisations are constantly under pressure to secure funding. Because of this, they often face a shortage of skills - which means it’s more important than ever for individuals with different skillsets to join their ranks. Plus, with over 30,000 registered charities operating in Wales, there’s plenty of ways for you to get involved in 2019. This guide aims to outline everything you need to know about working in the third sector in Wales and how you can find the perfect role. Ask yourself the important questions Why have you chosen this sector? Although working for organisations that are not-for-profit can be incredibly fulfilling, you’ll need to decide what your focus is in order to get the right role for you. Remember, the third sector is not primarily motivated by money like a lot of others. Weigh up your options – even though charities might offer a salary below market rate, they’re often more flexible in their working policies. What organisation interests me the most? Now that you’ve decided the third sector is right for you, you can begin to narrow down your options. Third sector organisations are generally driven by values and the desire to achieve social goals. This could be improving public welfare, the environment or economic well-being. Like with any other sector, you should find a job that you love. The only difference is, any profit that your organisation makes is usually given to others. You’ll be working toward social goals and living by the values of your organisation. Working in this sector is, by nature, a collaborative effort. This can mean putting in long hours to achieve tough objectives. If you show that you’re willing to get stuck in, your efforts will be rewarded. You’ll be able to pitch in ideas, as there’s a lot of scope for creativity in driving forward innovative solutions. Whatever organisation you choose to apply for, come to your interview ready with enthusiasm and plenty of ideas. Be flexible It’s natural to be drawn to charities with which you feel a personal connection, but as with any job, this isn’t always an option. The third sector is vast, so think about what you’d be willing to experiment with to gain some experience. Working in a certain sector may even open your eyes to unexpected opportunities. In order to improve your chances of securing a role, do some research into which charities are currently receiving increased government funding. For example, the Welsh government currently considers homelessness to be a pressing issue for the country. Wales’ people and homes charity, Shelter Cymru, is putting an immense amount of work into tackling homelessness. In fact it’s building homeless policies on the ‘Housing First’ principle, following Helsinki’s success with the ground-breaking scheme. Even if the organisation isn’t the perfect fit for you, at least you’ll have gained some valuable experience in a competitive market. Network As the old saying goes, it’s all about who you know. Reach out to the people you already know in the third sector to see if they can help. Of course, they may not be able to get you a job straight away, but even a volunteering opportunity is a great way to build relationships within the sector. If you make a good impression on professionals with years of experience in the sector, you’ll already have a foot in the door. When reaching out to ask for favours, however, don’t just dive in at the deep end. State your case clearly:
If you don’t have any connections in third sector organisations, get creative. Social media is a great tool for expanding your outreach, so why not try networking via LinkedIn or other platforms. Following organisations that interest you is a sure-fire way to stay updated on their news. Or, how about tagging along to charity networking events like gofod3? The options are endless. Make the most out of any connections you establish and don’t be afraid to be shameless! Welcome to your new career! Once you’ve found the ideal role for you, roll up your sleeves and get stuck in. Beyond the feeling of wanting to ‘do something worthwhile’, you really need to show your commitment to the cause. If you can do this, your career in the third sector will surely be a success. Beth Port Beth is a PR & Communications Assistant at CV-Library. She did her degree in English Literature, but loves all things language-related and is trying to learn Spanish too! She kept a blog on her year abroad and loves being able to write creatively about all things career-related in her job.
Posted on Tuesday Feb 12
|