I hysbysebu eich swydd cysylltwch â tim.deeks@canopymedia.co.uk

Telerau ac Amoda

Mae’r Telerau ac Amodau hyn yn llywodraethu’ch defnydd o wefan recriwt3 sef www.recriwt3.org.uk (“Gwefan recriwt3”) a’ch perthynas â recriwt3 (“recriwt3”, neu “ni”). Darllenwch nhw’n ofalus gan eu bod yn effeithio ar eich hawliau a’ch atebolrwydd o dan y gyfraith. Os nad ydych yn cytuno i’r Telerau ac Amodau hyn peidiwch â defnyddio Gwefan recriwt3. Os oes gennych gwestiwn am y Telerau ac Amodau, cysylltwch â recruit3@dennis.co.uk 

Os ydych am gyfarwyddo recriwt3 i ddarparu gwasanaethau recriwtio, bydd ein telerau ac amodau safonol yn berthnasol. (ar gael pan wneir cais amdanynt)

Defnyddio Gwefan recriwt3

Rydym yn gweithredu gwefan recriwt3 i’ch cynorthwyo i ddeall gwasanaethau recriwt3 ac i gyfathrebu â ni.

Darperir gwefan recriwt3 at eich defnydd personol yn unol â’r Telerau ac Amodau hyn. Trwy fynd ar wefan recriwt3 neu ei defnyddio, rydych yn cytuno i gael eich rhwymo gan y Telerau ac Amodau hyn.

Diwygiadau

Mae’n bosib y byddwn yn diweddaru’r Telerau ac Amodau hyn o bryd i’w gilydd am resymau cyfreithiol neu reoleiddiol neu i’n galluogi i weithredu Gwefan recriwt3 mewn ffordd briodol. Gwnawn ymdrechion rhesymol i roi gwybod i chi am unrhyw newidiadau. Bydd y newidiadau yn berthnasol i’r defnydd o wefan recriwt3 ar ôl i ni roi hysbysiad. Os yw’n well gennych beidio â derbyn y Telerau ac Amodau newydd ni ddylech barhau i ddefnyddio Gwefan recriwt3. Os ydych yn parhau i ddefnyddio gwefan recriwt3 ar ôl y dyddiad pan ddaw’r newid i rym, mae’ch defnydd o wefan recriwt3 yn dynodi’ch bod yn cytuno i gael eich rhwymo gan y Telerau ac Amodau newydd.

Eich defnydd o Wefan recriwt3

Ni chewch ddefnyddio gwefan recriwt3 at y dibenion canlynol:

  • lledaenu unrhyw ddeunydd anghyfreithlon, aflonyddol, enllibus, sarhaus, bygythiol, niweidiol, aflednais, anweddus, na deunydd sy’n annerbyniol mewn ffordd arall neu sy’n torri unrhyw ddeddfau;
  • trosglwyddo deunydd sy’n annog ymddygiad sy’n drosedd, sy’n arwain at atebolrwydd sifil neu’n torri mewn unrhyw ffordd unrhyw ddeddfau, rheoliadau neu god ymarfer perthnasol;
  • ymyrryd â defnydd neu fwynhad unrhyw un arall o Wefan recriwt3;
  • na gwneud, trosglwyddo neu storio copïau electronig o ddeunyddiau sydd o dan hawlfraint heb ganiatâd y perchennog.

Pe baech yn torri’r cymal hwn, chi fydd yn gyfrifol am ein colledion a’n costau a geir o ganlyniad.

Trwy gyflwyno gwybodaeth drwy wefan recriwt3 rydych yn cytuno ac yn cydnabod, er y byddwn efallai’n cysylltu â chi mewn ymateb i’r wybodaeth rydych yn ei darparu, nad oes rhwymedigaeth arnom i ddarparu unrhyw gynnyrch na gwasanaethau penodol i chi.

Cofrestru

Er mwyn cael hysbysiadau am swyddi rhaid i chi gofrestru ar Wefan recriwt3. Os ydych yn cofrestru, rhaid i chi sicrhau bod y manylion a ddarperir gennych wrth gofrestru neu ar unrhyw adeg yn gywir ac yn gyflawn.

Rhaid i chi roi gwybod i ni ar unwaith am unrhyw newidiadau yn y wybodaeth a ddarparwyd gennych wrth gofrestru drwy ddiweddaru’r manylion personol fel y gallwn gyfathrebu â chi’n effeithiol.

Os ydych yn cofrestru i ddefnyddio gwefan recriwt3 gofynnir i chi greu cyfrinair. I atal twyll, rhaid i chi gadw’r cyfrinair hwn yn gyfrinachol ac ni ddylech ei ddatgelu na’i rannu â neb. Os ydych yn gwybod neu’n amau bod rhywun arall yn gwybod eich cyfrinair dylech roi gwybod i ni drwy gysylltu â ni ar unwaith.

Os oes gan recriwt3 reswm i gredu ei bod yn debygol y bydd diogelwch yn cael ei danseilio neu Wefan recriwt3 yn cael ei chamddefnyddio, efallai y gofynnwn i chi newid eich cyfrinair neu efallai y byddwn yn atal eich cyfrif.

Yr hawl i atal neu ganslo’ch cofrestriad

Cawn atal neu ganslo’ch cofrestriad ar unwaith os barnwn yn rhesymol fod angen gwneud hynny neu os ydych yn torri unrhyw rai o’ch rhwymedigaethau o dan y Telerau ac Amodau hyn.

Gallwch ganslo’ch cofrestriad unrhyw bryd drwy fewngofnodi i wefan recriwt3 drwy’r ddolen “datdanysgrifio”. Ni fydd atal neu ganslo’ch cofrestriad a’ch hawl i ddefnyddio gwefan recriwt3 yn effeithio ar hawliau na rhwymedigaethau statudol y naill ochr na’r llall.

Ymwadiad

Tra mae recriwt3 yn defnyddio gofal rhesymol wrth gasglu a chyflwyno’r hyn sydd ar Wefan recriwt3, fe’i darperir er gwybodaeth yn unig a dylech gael arweiniad pellach a gwneud ymholiadau annibynnol cyn dibynnu arno. Os yw recriwt3 yn cael gwybod am unrhyw anghywirdeb yn y deunydd ar wefan recriwt3 byddwn yn ceisio cywiro’r anghywirdeb cyn gynted ag sy’n rhesymol bosib.

Os ydym yn torri’r Telerau ac Amodau hyn, ni fyddwn yn gyfrifol am unrhyw golledion sy’n dod i’ch rhan ond cyhyd ag y maent yn ganlyniad rhagweladwy i ni’n dau. Ni fydd ein hatebolrwydd mewn unrhyw achos yn cynnwys colledion busnes megis colli data, colli elw neu ymyrraeth fusnes.

Ni fydd y Telerau ac Amodau hyn yn cyfyngu nac yn effeithio ar ein hatebolrwydd os yw rhywbeth rydym yn ei wneud yn esgeulus yn achosi marwolaeth neu anaf personol.

Cyflogwyr

Nid yw recriwt3 yn gwneud unrhyw gynrychiolaeth na gwarant mewn perthynas ag unrhyw rai o’r canlynol:

  • Bodolaeth neu argaeledd unrhyw benodiad a hysbysebir ar Wefan recriwt3;
  • Y bydd unrhyw gyflogwr neu gleient yn gofyn am eich CV, yn gofyn i’ch cyfweld neu’ch recriwtio;
  • Y bydd unrhyw gyflogwr neu gleient yn cadw’n gyfrinachol eich gwybodaeth neu’ch data a ddarparwyd i’r cyflogwr neu’r cleient hwnnw;
  • Telerau terfynol a hyd unrhyw benodiad a sicrhawyd drwy Wefan recriwt3.

Argaeledd Gwefan recriwt3

Ni allwn warantu y bydd y gwasanaeth yn ddi-nam. Os ceir nam yn y gwasanaeth dylech ei adrodd i recruit3@dennis.co.uk a byddwn yn ceisio cywiro’r nam cyn gynted ag sy’n rhesymol bosib. Os yw recriwt3 yn cael gwybod am unrhyw anghywirdeb yn y deunydd ar wefan recriwt3 byddwn yn ceisio cywiro’r anghywirdeb cyn gynted ag sy’n rhesymol bosib.

Efallai y bydd eich mynediad at wefan recriwt3 yn cael ei gyfyngu o bryd i’w gilydd ar gyfer gwaith atgyweirio, cynnal a chadw neu i gyflwyno cyfleusterau neu wasanaethau newydd. Byddwn yn ceisio adfer y gwasanaeth cyn gynted ag sy’n rhesymol bosib.

Eiddo Deallusol

Mae’r holl wybodaeth sydd wedi’i chynnwys o fewn gwefan recriwt3 o dan berchnogaeth neu drwydded recriwt3. Cewch godi ac arddangos y cynnwys sydd ar wefan recriwt3 ar sgrin cyfrifiadur, storio’r cynnwys hwnnw yn electronig ar ddisg (ond ddim ar unrhyw weinydd na dyfais storio arall sydd wedi’i chysylltu â rhwydwaith) neu argraffu un copi o’r cynnwys hwnnw at eich defnydd personol, anfasnachol eich hun, a bwrw’ch bod yn cadw pob ac unrhyw hysbysiad hawlfraint a pherchenogol ynghyd. Fel arall ni chewch atgynhyrchu, addasu, copïo na dosbarthu na defnyddio at ddibenion masnachol unrhyw ddeunydd neu gynnwys ar wefan recriwt3 heb ganiatâd ysgrifenedig recriwt3.

Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth

Efallai y byddwn yn rhyddhau gwybodaeth amdanoch i awdurdodau rheoleiddiol neu awdurdodau gorfodi’r gyfraith, os yw’n ofynnol i ni wneud hynny. Efallai y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth rydym wedi’i chasglu amdanoch er dibenion monitro mewn perthynas â’n polisi cyfle cyfartal neu i ledaenu data am y farchnad a gwybodaeth am y farchnad, a byddem yn gwneud hynny’n ddienw. Yn ogystal, cadwn yr hawl i ddatgelu’r wybodaeth rydym wedi’i chasglu amdanoch i’n cynghorwyr proffesiynol ac unrhyw bersonau eraill pan fo recriwt3 yn rhoi ar gontract unrhyw agwedd ar gynnal ei gwasanaethau asiantaeth recriwtio. Bydd y trydydd partïon hyn yn gweithredu o dan gynlluniau cyfrinachedd tebyg i recriwt3.

Cyfraith Berthnasol

Bydd y telerau ac amodau hyn yn ddarostyngedig i gyfreithiau Cymru a Lloegr. Ceisiwn ddatrys unrhyw anghytundebau’n gyflym ac yn effeithlon. Os nad ydych yn fodlon â’r ffordd rydym yn delio gydag unrhyw anghytundeb, ac rydych am gymryd camau cyfreithiol, rhaid i chi wneud hynny o fewn y Deyrnas Unedig.

Amrywiol

Ni chewch drosglwyddo unrhyw rai o’ch hawliau o dan y Telerau ac Amodau hyn i unrhyw berson arall. Cawn drosglwyddo ein hawliau ninnau o dan y Telerau ac Amodau hyn i fusnes arall pan fyddwn yn credu’n rhesymol na fydd hynny’n effeithio ar eich hawliau.

Os ydych yn torri’r Telerau ac Amodau hyn ac mae recriwt3 yn dewis anwybyddu hynny, bydd recriwt3 yn dal i fod â’r hawl i ddefnyddio ei hawliau a’i rwymedïau yn ddiweddarach neu mewn unrhyw sefyllfa arall pan fyddwch yn torri’r Telerau ac Amodau.

Ni fydd recriwt3 yn gyfrifol am unrhyw beth sy’n torri’r Telerau ac Amodau hyn a achosir gan amgylchiadau y tu hwnt i’w rheolaeth resymol. Recriwt3 sy’n berchen ar wefan recriwt3 ac yn ei gweithredu.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni.