I hysbysebu eich swydd cysylltwch â tim.deeks@canopymedia.co.uk
Mae recriwt 3 wedi’i gofrestru fel rheolydd data â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. I weld manylion cofrestru’r Cwmni ewch i www.dpr.gov.uk. Rydym yn credu’n gryf ym mhwysigrwydd cadw’ch gwybodaeth bersonol yn breifat. Gwnawn ein gorau glas i sicrhau bod y wybodaeth bersonol rydych yn ei rhoi i ni yn cael ei chadw’n breifat ac yn gyfrinachol a’i defnyddio dim ond at y dibenion a nodir yn y Polisi Preifatrwydd hwn. Trwy ddod i’r wefan hon, a’i defnyddio, a chyflwyno’ch gwybodaeth bersonol rydych yn rhoi caniatâd i ni brosesu’ch gwybodaeth fel yr eglurir yn y Polisi Preifatrwydd hwn.
Pa Ddata a gesglir ac ym mha ffordd y’i defnyddir?
Wrth i chi gofrestru rydym yn casglu data personol amdanoch fel eich enw, eich cyfeiriad, eich cyfeiriad ebost a manylion amrywiol am eich gyrfa hyd yma a’ch blaenoriaethau wrth chwilio am swydd. Defnyddiwn y wybodaeth rydych yn ei darparu i ni at y dibenion busnes canlynol:
Ni fyddwn yn dal gafael ar y wybodaeth hon ond am gyhyd ag y mae’r diben y casglwyd y data ato yn parhau. Bydd wedyn yn cael ei harchifo neu ei dinistrio onid oes angen ei chadw i fodloni gofynion archwilio, cyfreithiol, rheoleiddiol neu gyfrifyddol neu i warchod ein buddiannau. Ni fydd Recriwt 3 yn gwerthu, yn masnachu nac yn rhentu’ch gwybodaeth bersonol i eraill onid ydych wedi rhoi’ch caniatâd i ni.
Data Personol Sensitif
Mae Recriwt 3 yn gyflogwr Cyfle Cyfartal ac felly bydd ein holl ymgeiswyr yn cael triniaeth gyfartal. Ni fyddwn byth yn gwahaniaethu ar sail rhywedd, oed, hil, tarddiad ethnig, statws priodasol, tarddiad cenedlaethol, cenedligrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd nac anabledd. Gan ein bod wedi ymrwymo i Amrywiaeth a Chyfle Cyfartal efallai y byddwn o bryd i’w gilydd yn defnyddio gwybodaeth at ddibenion monitro Amrywiaeth. Serch hynny, pe bai’r sefyllfa hon yn codi byddwn yn defnyddio’r wybodaeth yn unol â’r telerau a nodir yn y Polisi Preifatrwydd hwn.
Eich CV
Pan fyddwch yn cyflwyno’ch CV i Recriwt 3 bydd yn cael ei gadw yn ein cronfa ddata recriwtio dim ond at ddibenion y broses recriwtio. Gwnawn ein gorau glas i sicrhau nad yw’ch CV na’ch gwybodaeth bersonol yn cael eu hanfon at ddarpar gyflogwyr hyd nes rydym wedi cael caniatâd gennych chi. Gallai rhai cyflogwyr fod wedi’u lleoli y tu mewn a’r tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd.
Diweddariadau
Gwnawn ein gorau i sicrhau bod yr holl wybodaeth a ddelir amdanoch yn gyflawn ac yn cael ei diweddaru. Gofynnwn i chi anfon diweddariadau atom o’ch sefyllfa bresennol ac os hoffech i ni’ch dileu o’n cronfa ddata. Byddwn yn ymateb i’ch ceisiadau i ddiweddaru neu ddileu’ch gwybodaeth mewn modd effeithlon ac amserol.
Er mwyn sicrhau ein bod yn gwybod am eich gofynion diweddaraf efallai y byddwn o bryd i’w gilydd yn anfon gwybodaeth berthnasol atoch ac yn eich atgoffa o bethau mewn perthynas â’r gwasanaeth rydych wedi gofyn amdano. Mae hyn yn cydymffurfio â Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig 2003. Os yw’n well gennych beidio â chael unrhyw ddiweddariadau gennym cysylltwch â ni drwy recruit3@dennis.co.uk
Ymholiadau
Bydd unrhyw newidiadau rydym yn eu gwneud yn ein Polisi Preifatrwydd yn cael eu nodi yma ar y wefan. Os oes gennych gwestiwn neu bryder unrhyw bryd ynglyn â’r polisi cysylltwch â ni drwy recruit3@dennis.co.uk a gwnawn ein gorau i ymateb cyn gynted â phosib.