I hysbysebu eich swydd cysylltwch â tim.deeks@canopymedia.co.uk

Rheolwr Gwirfoddoli

Cyfeirnod:
VAC-5715
Sector:
Cyngor, Cymorth am Elusennau a Gwirfoddoli, Lles Cymdeithasol, elusen
Ro'l y swydd
Rheolwr
Cyflog:
£40,517 to £41,733 Y Flwyddyn
Oriau:
Llawn Amser
Tref/Dinas:
Aberystwyth,Cardiff,Rhyl
Math o Gontract:
Parhaol
Dyddiad Cau:
11/05/2026

Rheolwr Gwirfoddoli

Rydym yn chwilio am reolwr rhagweithiol a threfnus i ymuno ag CGGC fel ein Rheolwr Gwirfoddoli.

Rydym yn chwilio am rywun â gwybodaeth ddofn o’r trydydd sector i reoli cyflawniad beunyddiol ein gwasanaeth cymorth gwirfoddoli Cymru Gyfan. Mae hwn yn gyfle gwych i rywun medrus a phroffesiynol i droi gweledigaeth strategol yn effaith ymarferol ar draws y sector.

Ar ôl lansiad y Dull Newydd o Wirfoddoli, byddwch yn chwarae rôl allweddol mewn cydlynu ein gwasanaethau er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu diwygio, a’u bod yn gynhwysol ac effeithiol tu hwnt.

Os oes gennych sgiliau pobl a hwyluso cryf, gallech chwarae rhan hanfodol mewn cynnal y rhwydweithiau sy’n helpu Cymru i ffynnu fel cenedl wirfoddoli. Os ydych yn arbenigwr mewn rheoli gwirfoddolwyr ac eisiau helpu mudiadau gwirfoddol ym mhob cwr o Gymru i wneud mwy o wahaniaeth gyda’i gilydd, rydym eisiau clywed gennych chi.

PAM GWEITHIO YN CGGC?

Mae ein buddion staff yn cynnwys 25 diwrnod o wyliau â thâl ynghyd ag wyth gwyl banc a phum diwrnod disgresiwn, sy’n rhoi’r amser a’r cyfle i chi fagu nerth newydd. Cynllun Pensiwn Personol, Rhaglen Cymorth i Weithwyr, Cynllun Tâl Salwch uwch, gweithio hyblyg a chynllun arian gofal iechyd.

Rydym yn fudiad sy'n croesawu amrywiaeth. Mae gennym bolisïau rhagorol er mwyn cael cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, caiff gweithio hyblyg ei hybu, a’n diwylliant yw meithrin staff drwy arweinyddiaeth effeithiol a gwaith tîm rhagorol. 

Mae CGGC yn buddsoddi yn ei gyflogeion a'u datblygiad. Yn ogystal â bod yn Gyflogwr Cyflog Byw sy’n ymrwymedig i dalu'r cyflog byw gwirioneddol i staff, mae CGGC wedi derbyn achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl. Rydym yn falch o ddweud ein bod wedi ein hardystio gan Great Place to Work (gwefan Saesneg yn unig), yr awdurdod byd-eang ar ddiwylliant y gweithle, gyda 90% o’n staff yn dweud bod CGGC yn lle gwych i weithio. Nid targed na dyhead mo hwn; dyma beth ddywedodd ein pobl.

Rhagor o wybodaeth am weithio i CGGC.

Amser llawn, 35 awr yr wythnos, yn hyblyg

£40,517 yn codi i £41,733 y flwyddyn ar ôl cwblhau cyfnod prawf yn llwyddiannus.

Mae CGGC yn cyfrannu 9% o’ch cyflog blynyddol i’w gynllun pensiwn cymeradwy.

Cyfnod penodol tan 31 Mawrth 2028.

Lleoliad a hyblygrwydd: Rydym yn croesawu gweithio hybrid a hyblyg. Byddwch yn cael yr opsiwn o weithio o bell (gan gynnwys gartref) neu yn ein canolfannau swyddfa yn Aberystwyth a Chaerdydd a ledled gogledd Cymru lle rydym yn llogi mannau cymunedol bach i ddod â’r staff ynghyd. Nid oes unrhyw ddiwrnodau swyddfa gorfodol y tu hwnt i gyfarfodydd allweddol a gofynion tîm penodol.

Ynglyn â’r rôl:

Fel ein Rheolwr Gwirfoddoli, chi fydd arweinydd gweithredol gwasanaeth cymorth gwirfoddoli Cymru gyfan CGGC. Eich prif ffocws fydd sicrhau bod ein gwasanaethau yn cyd-fynd yn llwyr â’r ‘Dull Newydd o Wirfoddoli’, a throi strategaeth lefel uchel yn adnoddau a chymorth go iawn i’r sector.

Byddwch yn rheoli’r gwaith o gyflwyno mentrau gwirfoddoli cynhwysol a chynaliadwy, gan feithrin cydberthnasau cryf â rhanddeiliaid allweddol a thimau mewnol. Trwy ddefnyddio tystiolaeth a phrosesau gwerthuso cadarn, byddwch yn sicrhau bod ein cynnig bob amser yn wydn ac o ansawdd uchel, gan roi cefnogaeth uniongyrchol i fudiadau gwirfoddol gynyddu eu heffaith ledled Cymru.

Disgrifiad Swydd

Dyddiad cau: 11 Mai 2026

Dyddiad y cyfweliad: 20/21 Mai 2026

I wneud cais cliciwch yma!

Croesawir ceisiadau Cymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

https://wcva.cymru/cy/projects/dull-newydd-o-wirfoddoli-yng-nghymru/