Dewch yn Ymddiriedolwr yn Amgueddfa Cymru
Dyddiad cau: Dydd Sul 8 Mawrth 2026 cyn 12 hanner nos
Rydyn ni wrthi’n chwilio am hyd at dri Ymddiriedolwr newydd i helpu i lunio amgueddfeydd sy'n gwirioneddol adlewyrchu Cymru heddiw. Does dim angen profiad o fod yn aelod o fwrdd, dim ond angerdd dros Gymru, ymrwymiad i gynhwysiant, a phrofiad byw sy'n dod â safbwynt newydd.
Mae croeso yn arbennig i bobl o gymunedau sydd wedi'u tangynrychioli, gan gynnwys pobl Ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, pobl anabl, pobl LHDTC+, defnyddwyr BSL, pobl o gefndir incwm is, ac unigolion o’r Gogledd, y Canolbarth a’r Gorllewin.
Os ydych chi erioed wedi meddwl bod rolau fel hyn ddim i bobl fel fi – maen nhw. Mae’ch llais chi yn bwysig yma.
I gael rhagor o wybodaeth neu i wneud cais: cliciwch ar y ddolen: mae’n mynd â chi i'n gwefan swyddi a'r pecyn.
Mae’ch profiad byw chi yn perthyn yn ein Hystafell Fwrdd ni.