
Ymunwch â ni fel Rheolwr Nesaf yr Ymddiriedolaeth
Ymddiriedolaeth Addoldai Cymru / Welsh Religious Buildings Trust
- Gweithio o bell (yng Nghymru) | Rhan-amser (4 diwrnod, 28 awr yr wythnos)
- £29,824 y flwyddyn (pro rata) – Cyfwerth ag amser llawn: £37,280
- Contract cyfnod penodol (yn adnewyddadwy yn amodol ar gyllid)
Ydych chi'n frwydfrydig dros dreftadaeth Gymreig, yn fedrus o ran gweinyddu, ac yn barod i gael effaith ystyrlon? Ymunwch ag Addoldai Cymru yn ein cenhadaeth i ddiogelu a dathlu capeli anghydffurfiol hanesyddol Cymru.
Rydym yn chwilio am Reolwr ymroddedig a threfnus i chwarae rhan allweddol mewn rhedeg yr Ymddiriedolaeth o ddydd i ddydd, gan gefnogi ein staff, gwirfoddolwyr, a Bwrdd yr Ymddiriedolwyr.
Beth fyddwch chi'n ei wneud
- Rheoli gweithrediadau'r Ymddiriedolaeth, gan gefnogi Ymddiriedolwyr a chydweithwyr ledled Cymru. Bydd hyn yn cynnwys teithio rheolaidd i'n heiddo ledled Cymru.
- Cydlynu cyfarfodydd y bwrdd, gohebiaeth, a gweinyddiaeth ariannol.
- Goruchwylio gwaith cynnal a chadw eiddo a chydymffurfiaeth statudol ar gyfer ein hadeiladau hanesyddol.
- Bod yn bwynt cyswllt cyntaf i ymwelwyr, contractwyr, a'r cyhoedd.
- Cryfhau cysylltiadau cymunedol trwy allgymorth, digwyddiadau, a chyfryngau cymdeithasol.
- Cefnogi gwaith codi arian a chyfrannu at dwf gwaith yr Ymddiriedolaeth.
Beth fyddwch chi'n ei gyfrannu
- Ymrwymiad i werthoedd a chenhadaeth Addoldai Cymru
- Sgiliau gweinyddol, cyfathrebu a datrys problemau cryf
- Y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm bach
- Hyderus yn y Gymraeg a'r Saesneg
- Sgiliau TG cadarn a phrofiad gyda chofnodion neu gronfeydd data
- Trwydded yrru lawn, lân a ddefnydd gerbyd ar gyfer gwaith.
Pwyntiau Bonws ar gyfer:
- Profiad yn y sectorau treftadaeth neu elusennol
- Diddordeb mewn adeiladau hanesyddol a hanes crefyddol Cymru
- Profiad o ddefnyddio Xero neu feddalwedd gyfrifyddu arall
- Cynefindra â GDPR, iechyd a diogelwch, a llywodraethu elusennau
Pam Gweithio Gyda Ni?
- Gweithio o bell hyblyg (gan gynnwys teithio ledled Cymru)
- Cyfraniad pensiwn o 6%
- 20 diwrnod o wyliau blynyddol (yn seiliedig ar hawl o 25 diwrnod i swydd amser llawn) + pro rata gwyliau banc
- Y cyfle i helpu i warchod a hyrwyddo treftadaeth bensaernïol grefyddol Cymru
Sut i wneud cais
I wneud cais, anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol yn amlinellu eich addasrwydd ar gyfer y rôl at: post@addoldaicymru.org
A wnewch chi hefyd gynnwys enwau a manylion cyswllt dau ganolwr (byddwn ni ond yn cysylltu â nhw os byddwch yn llwyddiannus).
Ymholiadau anffurfiol? Cysylltwch â'n Cadeirydd, Gerallt Nash ar gerallt.nash@btinternet.com
Dyddiad cau: 30ain o Fedi.
Cyfweliadau rownd gyntaf trwy Zoom | Cyfweliadau terfynol yn bersonol.
Mae Ymddiriedolaeth Addoldai Cymru wedi ymrwymo i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a chymuned.
![]() | ![]() | ![]() | ![]() |
