I hysbysebu eich swydd cysylltwch â lauren.littler@canopymedia.co.uk

Swyddog Hyfforddi

Cyfeirnod:
VAC-5766
Sector:
cymuned
Cyflog:
£3,180 Y Flwyddyn
Oriau:
37 hoursm Monday to Friday
Tref/Dinas:
Barry/Cardiff
Math o Gontract:
Parhaol
Dyddiad Cau:
27/09/2026

Buddion

Rydym yn cynnig pecyn tal a buddion deniadol gyda thelerau ac amodau cyflogaeth rhagorol gan gynnwys:

Cyflog cychwynnol cystadleuolCydbwysedd rhwng bywyd a Gwaith ardderchogCyfleoedd datblygu a hyfforddiant rheolaiddCynllun pensiwnCynllun Cymorth I Weithwyr

Sut i wneud cais: 

I wneud cais am y rôl, uwchlwythwch eich CV isod.

 

Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg

Rydym hefyd yn cael ein hariannu i ddarparu cyngor yn Gymraeg. Felly, rydym yn recriwtio cynghorwyr sy’n siarad Cymraeg. Bydd siaradwyr Cymraeg rhugl yn derbyn £2,000 ychwanegol y flwyddyn yn dilyn asesiad o’u galluoedd a dechrau darparu gwasanaethau yn Gymraeg.

Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (TACh)

Ein huchelgais yw gweithio gyda’n gilydd i hyrwyddo amgylchedd mwy cynhwysol sy’n denu pawb sydd â’r sgiliau a’r profiad cywir ac sy’n arwydd o’n hymrwymiad i ddathlu a hyrwyddo amrywiaeth.

Rydym wedi ymrwymo i drin yr holl weithwyr presennol a darpar gyflogeion yn gyfartal ac nid ydym yn cydoddef gwahaniaethu ar sail oedran, anabledd, rhyw, tueddfryd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil neu ethnigrwydd, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd, neu briodas a phartneriaeth sifil. Rydym eisiau bobl ddod â’u cyfuniad unigryw o brofiadau, cefndiroedd, safbwyntiau a gwybodaeth gan ein bod yn cydnabod bod amrywiaeth yn ein gwneud yn gryfach.

 

Ni allwn ddarparu nawdd o dan system fewnfudo seiliedig ar bwyntiau’r DU, gan nad oes gennym tystysgrif drwydded nawdd.

Cynllun Hyderus o ran Anabledd

Rydym yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Mae Hyderus o ran Anabledd yn fenter gan y llywodraeth i annog cyflogwyr i recriwtio a chadw pobl anabl a phobl â chyflyrau iechyd. Mae’n wirfoddol ac wedi’i ddatblygu gan gyflogwyr a chynrychiolwyr pobl anabl. Mae bod yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd yn golygu ein bod yn ymrwymo i:

Pob cam i fod yn gyflogwr Hyderus o ran AnableddCynnig o leiaf un gweithgaredd i gael y bobl iawn ar gyfer ein sefydliadO leiaf un gweithgaredd i gadw a datblygu ein poblYmgymryd â chwblhau'r hunanasesiad Hyderus o ran Anabledd yn llwyddiannus

 

Swyddog Hyffordi

 

 

 

Beth i’w ddisgwyl

 

 

Byddwch yn gyfrifol am gynllunio, cydlynu a darparu hyfforddiant o ansawdd uchel i ystod amrywiol o randdeiliaid allanol – megis Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, sefydliadau'r trydydd sector a sefydliadau partner eraill – yn ogystal ag yn fewnol i staff CACV.

 

 

Dyletswyddau

 

 

Darpau a datblygu hyfforddiant

 

Dylunio, datblygu a chyflwyno sesiynau hyfforddiant deniadol ar gyfer rhanddeiliaid allanol a staff mewnol ar draws amrywiaeth o osodiadau a fformatau, gan gynnwys wyneb i wyneb ac ar-leinMeithrin perthnasoedd effeithiol a phroffesiynol gyda rhanddeiliaid allanol. Byddwch yn eu helpu i nodi anghenion hyfforddi a datblygu rhaglenni hyfforddi sy'n diwallu eu gofynion penodol.Datblygu a chyflwyno rhaglenni hyfforddi mewnol, yn seiliedig ar gynllun hyfforddi'r sefydliad, i ddiwallu anghenion penodol CACVDatblygu deunyddiau o ansawdd uchel, gan ystyried arddulliau dysgu ac anghenion hygyrchedd.Addasu arddull, cynnwys a dull cyflwyno'r hyfforddiant i ddiwallu anghenion y cynulleidfaoedd gwahanol a lefelau gwybodaeth.Cadw'n gyfredol â deddfwriaeth, polisi, canllawiau, arfer gorau a datblygiadau yn y sector sy'n berthnasol, er mwyn sicrhau cywirdeb y cynnwys hyfforddiant

 

Monitro, gwerthuso a gwelliant parhaus

 

Gwerthuso effeithiolrwydd ac effaith hyfforddiant drwy adborth, asesiadau a mesurau priodol eraill, gan ddefnyddio'r canlyniadau i wella'r ddarpariaeth hyfforddiant yn barhaus.Cadw cofnodion cywir o hyfforddiant, presenoldeb, adborth a chanlyniadau.Datblygu rhaglen flynyddol o hyfforddiant allanol, wedi'i llywio gan dueddiadau o ran cyngor a dadansoddiad o anghenion hyfforddiant allanol.

Dysgu & datblygu

 

Byddwch yn rhagweithiol yn eich dysgu ac yn nodi eich anghenion datblygiad proffesiynol

 

Bod yn gyflogai i CACV

 

Gweithio ar y cyd â'r tîm a chydweithwyr i feithrin perthnasoedd gwaith cynhyrchiol.Dangos ymrwymiad i'n nodau a'n hegwyddorion, ac ymlynu wrth ein polisïau i ddiogelu’r uniondeb ac enw da'r sefydliad.Cynnal safonau proffesiynol drwy'r amser.Cyfrannu at wella gwasanaethau, rhannu gwersi a ddysgwyd, a chefnogi datblygiad gweithwyr achos llai profiadol neu hyfforddeion lle bo angen.

 

Cyffredinol

 

Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill y gellir eu gofyn yn rhesymol.Hyrwyddo nodau, polisïau, gofynion aelodaeth a pholisïau cyfle cyfartal Cyngor ar Bopeth Caerdydd a Bro Morgannwg.Cadw at ganllawiau iechyd a diogelwch a rhannu cyfrifoldeb am ddiogelwch eich hun a diogelwch cydweithwyr.

 

Mae’r disgrifiad swydd hwn yn ganllaw yn unig. Nid yw’n drwyadl ac nid yw’n gyfystyr a thelerau ac amodau o gyflogaeth.

 

Swyddog Hyffordi

 

 

 

Yr hyn yr ydym ei eisiau
Eich meysydd gwybodaeth a phrofiad

 

 

Rydym yn chwilio am rywun sydd â phrofiad profedig o ddylunio, cydlynu a chyflwyno hyfforddiant o ansawdd uchel

 

Hanfodol:

Profiad profedig o ddarparu hyfforddiant neu fentora mewn amgylchedd proffesiynol.Profiad o gynllunio a hwyluso sesiynau hyfforddi (wyneb i wyneb a/neu rithwir).Sgiliau cyfathrebu a chyflwyno rhagorol..Sgiliau rhyngbersonol cryf a'r gallu i gefnogi ac ysgogi eraill.Sgiliau trefnu a rheoli amser, gyda'r gallu i reoli cylchoedd hyfforddiant lluosog.Rhaid cael hyfforddiant ym maes cynghori (gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, fudd-daliadau lles, dyled, tai a chyflogaeth)

Dymunol:

Profiad o farchnata hyfforddiant i ystod amrywiol o randdeiliaid allanolGallu siarad a chyflwyno hyfforddiant yn Gymraeg.Cymhwyster hyfforddi neu fentora perthnasol (e.e. CIPD, PTTLS, Train the Trainer)