
Swyddog Cymorth Grantiau dan Hyfforddiant
Os ydych chi’n frwdfrydig, yn barod i ddysgu ac yn barod i gymryd y cam cyntaf yn eich gyrfa â diben – byddem yn dwli clywed gennych chi.
Pam y rôl hon?
- Byddwch yn cael profiad ymarferol yn y byd elusennau a chyllid cyhoeddus
- Byddwch yn rhan o dîm cefnogol sy’n cael ei yrru gan genhadaeth ac sydd wedi buddsoddi yn eich twf
- Byddwch yn cael cyfle i weithio ar heriau go iawn sy’n helpu i greu Cymru fwy teg, gwyrdd a chynhwysol
Swydd o dan hyfforddiant yw hon, gyda’r potensial i symud ymlaen i rôl barhaol ar ôl y cyfnod hyfforddi cychwynnol o chwe mis.
Categori Cymraeg: un swydd lle mae’r Gymraeg yn hanfodol ac un swydd lle mae’r Gymraeg yn ddymunol.
Oriau: Llawn amser, 35 awr yr wythnos yn hyblyg
Cyflog: Dechrau ar £22,932 y flwyddyn gyda’r cyfle i symud ymlaen i £27,101 y flwyddyn ar ôl cyfnod hyfforddi llwyddiannus, ac yna’n codi i £32,323 y flwyddyn, lle byddwch yn symud drwy’r amrediad cyflog yn unol â chwblhau’r cyfnod prawf a’n proses adolygu perfformiad yn llwyddiannus. Mae CGGC hefyd yn cyfrannu 9% o’ch cyflog blynyddol at gynllun pensiwn cymeradwy CGGC.
Lleoliad: Hyblyg: Mae gan CGGC bolisi gweithio hybrid a hyblyg ar waith, sy’n golygu y gallwch weithio cyfran o’ch amser yn ein swyddfeydd neu o bell (gan gynnwys gartref). Rydym yn fudiad Cymru gyfan gyda chanolfannau swyddfa yn Aberystwyth, Caerdydd a’r Rhyl y gall staff eu defnyddio. Bydd angen mynychu rhai digwyddiadau staff a galwadau gwaith penodol yn ein swyddfeydd.
Ynglyn â’r rôl
Byddwch yn cynorthwyo CGGC i ddod yn un o’r prif gyllidwyr aml-fformat yng Nghymru, yn arloesi i gefnogi’r sector gan fanteisio ar ein cydberthnasau cyllido i ehangu ein heffaith a’n darpariaeth.
Byddwch yn chwarae rôl allweddol mewn sicrhau mai CGGC yw’r prif gyllidwr yng Nghymru a’r un mwyaf arloesol. Bydd eich gwaith yn ein helpu i gynnal rhaglen grantiau eithriadol, gan rymuso mudiadau gwirfoddol i wneud effaith barhaol go iawn yn eu cymunedau
Pam gweithio yn CGGC
Mae ein cynnig buddion i staff yn cynnwys 25 diwrnod o wyliau â thâl ynghyd ag wyth gwyl banc a phum diwrnod disgresiwn, Cynllun Pensiwn Personol, Rhaglen Cymorth i Weithwyr, Cynllun Tâl Salwch uwch, gweithio hyblyg a chynllun arian gofal iechyd.
Rydym yn fudiad sy'n croesawu amrywiaeth. Mae gennym bolisïau rhagorol er mwyn cael cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, caiff gweithio hyblyg ei hybu, a’n diwylliant yw meithrin staff drwy arweinyddiaeth effeithiol a gwaith tîm rhagorol. Rydym yn falch o fod yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd.
Mae CGGC yn buddsoddi yn ei gyflogeion a'u datblygiad. Yn ogystal â bod yn Gyflogwr Cyflog Byw sy’n ymrwymedig i dalu'r cyflog byw gwirioneddol i staff, mae CGGC wedi derbyn achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl.
Rhagor o wybodaeth am weithio i CGGC.
Darllenwch y disgrifiad swydd llawn
Darllenwch y disgrifiad swydd llawn - cymraeg hanfodol
SUT I YMGEISIO
I ymgeisio, lawrlwythwch y pecyn cais isod:
Dyddiad cau: 01 Hydref 2025 – 10am
Dyddiad cyfweliad: 8 Hydfref 2025
Croesawir ceisiadau Cymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
![]() | ![]() | ![]() | ![]() |
