Swyddog Cymorth Systemau
Ymunwch ag CGGC fel ein Swyddog Cymorth Systemau a helpwch ni i sbarduno arloesedd a gwella gwasanaethau digidol ar draws sector gwirfoddol Cymru.
Rydyn ni’n chwilio am rywun â sgiliau pobl rhagorol sy’n mwynhau cynorthwyo eraill, gwneud gwahaniaeth a chyfrannu at newid cadarnhaol.
Pam gweithio yn CGGC
Mae ein buddion staff yn cynnwys 25 diwrnod o wyliau â thâl ynghyd ag wyth gwyl banc a phum diwrnod disgresiwn, sy’n rhoi’r amser a’r cyfle i chi fagu nerth newydd. Cynllun Pensiwn Personol, Rhaglen Cymorth i Weithwyr, Cynllun Tâl Salwch uwch, gweithio hyblyg a chynllun arian gofal iechyd.
Rydym yn fudiad sy'n croesawu amrywiaeth. Mae gennym bolisïau rhagorol er mwyn cael cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, caiff gweithio hyblyg ei hybu, a’n diwylliant yw meithrin staff drwy arweinyddiaeth effeithiol a gwaith tîm rhagorol.
Mae CGGC yn buddsoddi yn ei gyflogeion a'u datblygiad. Yn ogystal â bod yn Gyflogwr Cyflog Byw sy’n ymrwymedig i dalu'r cyflog byw gwirioneddol i staff, mae CGGC wedi derbyn achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl. Rydym yn falch o ddweud ein bod wedi ein hardystio gan Great Place to Work (gwefan Saesneg yn unig), yr awdurdod byd-eang ar ddiwylliant y gweithle, gyda 90% o’n staff yn dweud bod CGGC yn lle gwych i weithio. Nid targed na dyhead mo hwn; dyma beth ddywedodd ein pobl.
Rhagor o wybodaeth am weithio i CGGC.
Categori Cymraeg: Dymunol
Llawn amser, 35 awr yr wythnos yn hyblyg
Dechrau ym mis Medi 2026.
£27,914 yn cynyddu i £29,043 y flwyddyn ar ôl cwblhau cyfnod prawf yn llwyddiannus.
Mae CGGC yn cyfrannu 9% o’ch cyflog blynyddol i’w gynllun pensiwn cymeradwy.
Lleoliad a hyblygrwydd: Rydym yn croesawu gweithio hybrid a hyblyg. Byddwch yn cael yr opsiwn o weithio o bell (gan gynnwys gartref) neu yn ein canolfannau swyddfa yn Aberystwyth a Chaerdydd a ledled gogledd Cymru lle rydym yn llogi mannau cymunedol bach i ddod â’r staff ynghyd. Nid oes unrhyw ddiwrnodau swyddfa gorfodol y tu hwnt i gyfarfodydd allweddol a gofynion tîm penodol.
Ynglyn â’r rôl
Fel Swyddog Cymorth, byddwch yn chwarae rhan allweddol mewn cefnogi ein hadnoddau a’n systemau digidol, gan sicrhau bod defnyddwyr yn cael y gorau o’n platfformau. Byddwch yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr a phartneriaid allanol, yn ymateb i ymholiadau, datrys problemau a helpu defnyddwyr i lywio ein systemau rheoli cyllid.
Mae’r rôl hon yn berffaith i rywun sy’n mwynhau datrys problemau, sy’n ffyddiog ei fod yn gallu cyfathrebu gwybodaeth dechnegol yn glir ac sy’n frwd am roi gofal o ansawdd uchel i gwsmeriaid. Bydd angen i chi fod yn drefnus, yn rhagweithiol ac yn gysurus yn gweithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm. Mae profiad o weithio gydag adnoddau digidol yn hanfodol.
Dyddiad cau: 22 Mehefin 2026
Dyddiad cyfweliad: 6 a 7 Gorffennaf 2026
Croesawir ceisiadau Cymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.