Rheolwr Prosiect Sgiliau a Lles
SWYDD AR GAEL: 39 awr/llawn-amser (Cyfnod Mamolaeth 3 Awst 2026 – 31 Awst 2027)
YN ADRODD I: Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol
CYFLOG: £41,896.76 - £48,167.03 pro rata
LLEOLIAD: Oriau wedi'u rhannu rhwng gweithio gartref, mynychu ein swyddfa yng Nghaerdydd, ynghyd â rhywfaint o deithio ar draws Caerdydd, Bro Morgannwg a RhCT.
Trosolwg:
Mae Innovate Trust yn chwilio am unigolyn brwdfrydig i oruchwylio'r Adran Sgiliau a Lles sy'n cynnwys portffolio o brosiectau sy'n cefnogi datblygiad sgiliau hanfodol a lles i oedolion ag anableddau dysgu ac anghenion ychwanegol eraill.
Mae gan y Rheolwr Prosiect Sgiliau a Lles atebolrwydd cyffredinol am yr adran, gan sicrhau bod amcanion y prosiect yn cael eu cyflawni yn unol â disgwyliadau a safonau'r cyllidwyr. Bydd y Rheolwr Prosiect yn rheolwr llinell i dîm o 14 o staff, gan gynnwys Goruchwyliwr Prosiect, tîm o Swyddogion Prosiect a Swyddogion Prosiect Cynorthwyol, gan roi'r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i gyflawni eu rolau a'u cyfrifoldebau.
Er bod y rôl hon yn un rheolaethol, dylech ddisgwyl mynychu gweithgareddau prosiect o bryd i'w gilydd er mwyn cynnal dealltwriaeth dda o'r prosiectau a chydberthynasau gwaith cryf gyda staff.
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn:
- Ymroddedig i gynnig cyfleoedd ystyrlon i bobl ag anableddau ac anghenion ychwanegol eraill.
- Gallu rheoli llwyth gwaith amrywiol wrth gefnogi eraill i wneud yr un peth.
- Meddu ar y gallu i feddwl yn strategol.
- Bod â ffocws ar fanylion ac yn gallu cynnal cofnodion a chyllidebau cywir.
Mae angen gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y rolau hyn.
Am becyn cais ewch i'n gwefan: Gyrfaoedd yn Innovate Trust, e-bost recruitment@innovate-trust.org.uk neu fel arall ffoniwch Brif Swyddfa Innovate Trust ar 02920 382151
Dyddiad cau:
Cyfweliadau wedi'u trefnu ar gyfer 13 a 14 Gorffennaf.