I hysbysebu eich swydd cysylltwch â tim.deeks@canopymedia.co.uk

Swyddog Rhaglen

Cyfeirnod:
VAC-5685
Sector:
Cyngor, Cymorth am Elusennau a Gwirfoddoli, Lles Cymdeithasol, elusen
Ro'l y swydd
Swyddog
Cyflog:
£30,000 to £34,000 Y Flwyddyn
Oriau:
Llawn Amser
Tref/Dinas:
Caerdydd
Math o Gontract:
Parhaol
Dyddiad Cau:
15/02/2026

Contract: Cytundeb parhaol, amser llawn

Oriau: 35 awr yr wythnos (1FTE)

Cyflog: £30,000 – £34,000

Lleoliad: Wedi’i leoli yng nghanolfan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Caerdydd 1–2 ddiwrnod yr wythnos. Rydym yn agored i drefniadau gweithio hyblyg.

A ydych yn angerddol am wella cefnogaeth i ofalwyr ifanc?

Helpwch ni i lansio rhaglen Dyfodol Teg i Ofalwyr Ifanc yng Nghymru. Yn Ymddiriedolaeth Gofalwyr, rydym yn adeiladu mentrau ysgolion newydd sbon ac yn gosod y seiliau ar gyfer cefnogaeth gryfach i ofalwyr ifanc ledled y wlad.

Rydym yn chwilio am Swyddog Rhaglen sydd â gwir ymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant i gyd-gynhyrchu a phrofi rhaglen newydd sy’n canolbwyntio ar ysgolion ac wedi’i theilwra’n benodol ar gyfer Cymru.

Fel deiliad y swydd:

  • Byddwch yn gweithio’n agos gyda gwasanaethau lleol ac ysgolion i hybu’r rhaglen ledled Cymru
  • Byddwch yn helpu i sicrhau bod pob adnodd ar gael yn Gymraeg a Saesneg
  • Mae sgiliau cyfathrebu a chynnal perthnasoedd cryf yn hanfodol

Lawrlwythwch y Pecyn Recriwtio sydd ynghlwm i gael gwybod mwy.

Cyfle Cyfartal

Fel cyflogwr cyfle cyfartal, mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr wedi ymrwymo i drin pob gweithiwr presennol a darpar weithwyr yn gyfartal ac nid yw'n goddef gwahaniaethu ar sail oedran, anabledd, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil neu ethnigrwydd, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, neu briodas a phartneriaeth sifil.

Rydym yn anelu at gael gweithle amrywiol a chynhwysol ac yn annog ymgeiswyr cymwys o ystod eang o gefndiroedd i wneud cais ac ymuno ag Ymddiriedolaeth  Gofalwyr.

Darganfyddwch fwy am weithio i Ymddiriedolaeth Gofalwyr yma: Working for Carers Trust