
Rheolwr Polisi
· Ydych chi'n angerddol am gydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol, gyda phrofiad o ddylanwadu ar lunwyr polisi cenedlaethol?
· Ydych chi'n deall sut mae prosesau gwleidyddol yn gweithio ac yn gwybod sut i ymgysylltu â phenderfynwyr pwysig yng Nghymru?
· Ydych chi'n gyfathrebwr da ac yn aelod tîm sy'n mwynhau helpu i adeiladu perthnasoedd gyda phenderfynwyr allweddol?
Os ydych wedi ateb 'ydw', rydym am glywed gennych.
· £37,874 (cyfnod penodol hyd at Dachwedd 2026)
· Wythnos waith 4 diwrnod (80% o'r oriau llawn-amser gyda chyflog llawn)
· Gweithio o bell a hyblyg (presenoldeb achlysurol yn swyddfa Caerdydd a theithio)
· Pensiwn da
Rydym yn chwilio am rywun i gefnogi gwaith Tai Pawb ar ddatblygu polisi, dylanwadu ac ymgyrchu ar draws meysydd tai, cydraddoldeb a hawliau dynol. Byddwch yn gweithio'n agos gyda Phennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus i helpu i lunio a chyflwyno ymgyrchoedd effeithiol—megis ein hymgyrch ar y cyd ‘Cefnogi’r Mesur: yr hawl i gartref da’—tra'n cydlynu ymchwil, ymgysylltu â rhanddeiliaid, a chyfrannu at bapurau polisi a briffiau. Mae hwn yn gyfle gwych i helpu i yrru newid yn sector tai Cymru, dylanwadu ar bolisi cenedlaethol, a gweithio yng nghanol sefydliad bach, deinamig sy'n ymrwymedig i gydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol.
Sut i Wneud Cais
Darllenwch y Pecyn Swydd: ….
(Fersiynau hygyrch ar y we yma: …)
· Cwblhewch ein ffurflen gais …https://www.recruit3.org.uk/downloads/baj/Tai-Pawb-Application-Form-2025-1.docx
· Cwblhewch ein ffurflen monitro cydraddoldeb ….https://www.recruit3.org.uk/downloads/baj/Equality-Monitoring-Form-2025.docx
· Anfonwch nhw i andrea@taipawb.org erbyn 12 p.m. 8 Medi 2025
· Cyfweliad cyntaf (Canolfan asesu grwp): Dydd Iau 18 Medi: 10yb – 12yp
· Ail gyfweliad (unigol): Dydd Iau 25 Medi
Hysbysiad Preifatrwyddhttps://www.recruit3.org.uk/downloads/baj/Privacy-Notice-Applicants.docx | Sut rydym yn defnyddio gweithredu cadarnhaol wrthhttps://www.recruit3.org.uk/downloads/baj/How-we-use-positive-action-in-recruitment-and-selection-process.docx recriwtio
![]() | ![]() | ![]() | ![]() |
