I hysbysebu eich swydd cysylltwch â lauren.littler@canopymedia.co.uk

Swyddog Datblygu Partneriaethau

Cyfeirnod:
VAC-5768
Sector:
Cymorth am Elusennau a Gwirfoddoli
Cyflog:
£34,285 Y Flwyddyn
Oriau:
35 hours
Tref/Dinas:
Wales/Hybrid
Math o Gontract:
Parhaol

Swyddog Datblygu Partneriaethau

Rydym yn chwilio am unigolyn rhagweithiol sy’n canolbwyntio ar gydberthnasau i ymuno ag CGGC fel ein Swyddog Datblygu Partneriaethau newydd.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i rywun sy’n mwynhau cysylltu â phobl, darganfod cyfleoedd i dyfu a helpu mudiadau i ffynnu. Efallai bod gennych brofiad o ddatblygu partneriaethau, ymgysylltu â rhanddeiliaid, tyfu aelodaeth, rheoli cyfrifon, codi arian neu ddatblygu busnesau ac yn chwilio am gyfle i ddefnyddio’r sgiliau hynny mewn mudiad a yrrir gan ddiben.

Byddwch yn chwarae rôl allweddol yn natblygiad a thwf Recruit3, platfform recriwtio’r sector gwirfoddol yng Nghymru, ac yn helpu i gynyddu’r ymgysylltiad â chynnig partneriaeth CGGC.

Os ydych chi’n hyderus o ran meithrin cydberthnasau, yn awyddus i gyflawni twf ac yn frwd am gryfhau’r sector gwirfoddol yng Nghymru, byddai’n braf iawn clywed gennych.

Pam gweithio yn CGGC

Mae ein buddion staff yn cynnwys 25 diwrnod o wyliau â thâl ynghyd ag wyth gwyl banc a phum diwrnod disgresiwn, sy’n rhoi’r amser a’r cyfle i chi fagu nerth newydd. Cynllun Pensiwn Personol, Rhaglen Cymorth i Weithwyr, Cynllun Tâl Salwch uwch, gweithio hyblyg a chynllun arian gofal iechyd.

https://webrecru.it/1iOVuV 

Rydym yn fudiad sy'n croesawu amrywiaeth. Mae gennym bolisïau rhagorol er mwyn cael cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, caiff gweithio hyblyg ei hybu, a’n diwylliant yw meithrin staff drwy arweinyddiaeth effeithiol a gwaith tîm rhagorol. 

 

Mae CGGC yn buddsoddi yn ei gyflogeion a'u datblygiad. Yn ogystal â bod yn Gyflogwr Cyflog Byw sy’n ymrwymedig i dalu'r cyflog byw gwirioneddol i staff, mae CGGC wedi derbyn achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl. Rydym yn falch o ddweud ein bod wedi ein hardystio gan Great Place to Work (gwefan Saesneg yn unig), yr awdurdod byd-eang ar ddiwylliant y gweithle, gyda 90% o’n staff yn dweud bod CGGC yn lle gwych i weithio. Nid targed na dyhead mo hwn; dyma beth ddywedodd ein pobl.

O 7 Medi 2026, byddwn yn treialu wythnos waith pedwar diwrnod am gyfnod o 12 mis. Yn ystod y cyfnod hwn, ein patrwm gwaith fydd dydd Llun i ddydd Iau. Bydd rhagor o fanylion am y treial yn cael eu darparu yn ystod y broses recriwtio.

Rhagor o wybodaeth am weithio i CGGC.

Categori’r Gymraeg: Dymunol

Amser llawn: 35 awr yr wythnos, hyblyg

Cyflog: CGGC Gradd C £34,285 yn codi i £ 35,313 y flwyddyn ar ôl cwblhau cyfnod prawf yn llwyddiannus.

Mae CGGC yn cyfrannu 9% o’ch cyflog blynyddol i’w gynllun pensiwn cymeradwy.

Lleoliad: Yn CGGC, rydym yn croesawu gweithio hybrid a hyblyg. Gyda staff yn gweithio’n hyblyg ledled Cymru, bydd gennych yr opsiwn i weithio o bell (gan gynnwys gartref) neu yn ein swyddfeydd yn Aberystwyth a Chaerdydd, ac mewn mannau cymunedol bach ledled Gogledd Cymru. Bydd angen bod yn ein swyddfeydd o bryd i’w gilydd ar gyfer digwyddiadau staff penodol ac ymrwymiadau gwaith.

Ynglyn â’r rôl

Fel ein Swyddog Datblygu Partneriaethau, byddwch yn:

Ysgwyddo’r cyfrifoldeb bob dydd dros gyflawni a datblygu Recruit3, ein platfform recriwtio ar gyfer y sector gwirfoddol yng Nghymru, gan sicrhau ei fod yn parhau i fod yn berthnasol, yn hygyrch ac yn werthfawr i fudiadau gwirfoddol ledled Cymru.Cynyddu’r defnydd o Recruit3 trwy sicrhau bod mwy o fudiadau yn hysbysebu rolau a helpu i gynhyrchu incwm cynaliadwy.Cydlynu gweithgarwch i recriwtio, cadw ac ymgysylltu â phartneriaid CGGC, gan gryfhau cysylltiadau ar draws y sector.Gweithio gyda chydweithwyr i godi proffil Recruit3 a chynnig partneriaeth CGGC.Defnyddio data, mewnwelediad ac adborth i fonitro perfformiad, nodi cyfleoedd a gwella canlyniadau.Cefnogi’r gwaith o gynllunio a chyflwyno fforymau partner, digwyddiadau a gweithgareddau ymgysylltu eraill sy’n cryfhau llais a rennir y sector.Helpu i ddatblygu partneriaethau ystyrlon sy’n creu gwerth i bartneriaid CGGC, busnesau a’r sector gwirfoddol ehangach.

Mae hwn yn gyfle gwych i chwarae rôl allweddol mewn creu gwasanaethau sy’n cysylltu mudiadau, yn cefnogi recriwtio ac yn gwneud gwahaniaeth go iawn i’r sector gwirfoddol ledled Cymru.

Dyddiad cau: 30 Medi 2026

Dyddiad cyfweliad: (dros dro) Dydd Mercher 14 Hydref / Dydd Llun 19 Hydref

Croesawir ceisiadau Cymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.