I hysbysebu eich swydd cysylltwch â tim.deeks@canopymedia.co.uk

Pennaeth Gwirfod

Cyfeirnod:
VAC-5686
Sector:
Cyngor, Cymorth am Elusennau a Gwirfoddoli, Lles Cymdeithasol, cymuned, elusen
Cyflog:
£45,602 to £48,380 Y Flwyddyn
Oriau:
Llawn Amser
Tref/Dinas:
Aberystwyth,Cardiff,Rhyl
Math o Gontract:
Parhaol
Dyddiad Cau:
22/02/2026

Pennaeth Gwirfoddoli (Arweinydd y Weledigaeth ar gyfer Gwirfoddoli)

Ymunwch â ni fel Pennaeth Gwirfoddoli – Lluniwch Ddyfodol Gwirfoddoli yng Nghymru!

Ydych chi’n frwd am wneud gwahaniaeth a gyrru newid positif? Oes gennych chi’r weledigaeth a’r arweinyddiaeth i ddylanwadu ar wirfoddoli ar lefel genedlaethol? Os felly, dyma’ch cyfle i arwain y ffordd!

Mae CGGC yn chwilio am arweinydd dynamig, strategol ac ysbrydoledig i ymgymryd â’r rôl Pennaeth Gwirfoddoli (Arweinydd y Weledigaeth ar gyfer Gwirfoddoli). Yn y swydd allweddol hon, byddwch yn hybu gwirfoddoli ar draws sector gwirfoddol Cymru, gan weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid i gyflawni’r Dull Newydd ar gyfer Gwirfoddoli. Bydd eich arweinyddiaeth yn helpu i greu sector gwirfoddol ffyniannus, cynhwysol, diogel a chynaliadwy sy’n grymuso cymunedau ac yn trawsnewid bywydau.

Croesawn ceisiadau secondiad ar gyfer y swydd hon.

Pam gweithio yn CGGC 

Mae ein buddion staff yn cynnwys 25 diwrnod o wyliau â thâl ynghyd ag wyth gwyl banc a phum diwrnod disgresiwn, Cynllun Pensiwn Personol, Rhaglen Cymorth i Weithwyr, Cynllun Tâl Salwch uwch, gweithio hyblyg a chynllun arian gofal iechyd.

Rydym yn fudiad sy'n croesawu amrywiaeth. Mae gennym bolisïau rhagorol er mwyn cael cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, caiff gweithio hyblyg ei hybu, a’n diwylliant yw meithrin staff drwy arweinyddiaeth effeithiol a gwaith tîm rhagorol. 

Mae CGGC yn buddsoddi yn ei gyflogeion a'u datblygiad. Yn ogystal â bod yn Gyflogwr Cyflog Byw sy’n ymrwymedig i dalu'r cyflog byw gwirioneddol i staff, mae CGGC wedi derbyn achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl.

Rhagor o wybodaeth am weithio i CGGC.

Pennaeth Gwirfoddoli (Arweinydd y Weledigaeth ar gyfer Gwirfoddoli)

Categori Cymraeg: Dymunol

Amser llawn, 35 awr yr wythnos, yn hyblyg

£45,602 yn codi i £48,380 y flwyddyn

Mae CGGC yn cyfrannu 9% o’ch cyflog blynyddol i’w gynllun pensiwn cymeradwy.

Lleoliad a hyblygrwydd: Yn CGGC, rydym yn croesawu gweithio hybrid a hyblyg. Gyda’r staff yn gweithio’n hyblyg ledled Cymru, bydd gennych chi’r opsiwn o weithio o bell (gan gynnwys gartref) neu yn ein canolfannau swyddfa yn Aberystwyth a Chaerdydd, ac ar hyd a lled Gogledd Cymru yn llogi mannau cymunedol bach i ddod â’r staff ynghyd. Nid oes gofyniad i weithio nifer penodol o ddiwrnodau yn y swyddfa y tu hwnt i fynd i gyfarfodydd allweddol a bodloni gofynion tîm penodol.

Ynglyn â’r rôl

Beth fyddwch chi’n ei wneud:

  • Arwain â gweledigaeth: Gyrru strategaeth wirfoddoli CGGC a llywio polisïau cenedlaethol.
  • Dylanwadu ac eirioli: Cynrychioli CGGC mewn fforymau lefel uchel a hyrwyddo gwirfoddoli yng Nghymru.
  • Arloesi ac ysbrydoli: Hyrwyddo modelau gwirfoddoli newydd, o gyfleoedd hyblyg i ymgysylltiad digidol.
  • Meithrin partneriaethau cryf: Cydweithio â’r sectorau gwirfoddol, cyhoeddus a phreifat i greu effaith.
  • Grymuso timau: Rhoi cyfeiriad strategol ac ysgogi eich tîm i wneud mwy o wahaniaeth.

Beth rydym ni’n chwilio amdano:

  • Arweinydd profedig gyda chryn brofiad o strategaeth a pholisi gwirfoddoli.
  • Eiriolwr brwd dros amrywiaeth, cynhwysiant a thegwch.
  • Cyfathrebwr medrus sy’n gallu dylanwadu, ysbrydoli ac ymgysylltu ar bob lefel.
  • Rhywun sy’n ffynnu ar gydweithrediad, partneriaeth ac arloesedd.

Mae cyllid ar gyfer y swydd hon tan 27 Mawrth 2028 ar hyn o bryd. Mae hon yn rôl tymor penodedig am ddwy flynedd, yn dechrau yn Ebrill 2026.

Os ydych chi’n barod i arwain newid a llunio dyfodol gwirfoddoli, byddem yn dwli clywed gennych chi.

Darllenwch y disgrifiad swydd llawn.

Cliciwch yma i wneud cais

Dyddiad cau: 22 Chwefror 2026 – hanner nos

Dyddiad cyfweliad: wythnos o 9-13 Mawrth

Croesawir ceisiadau Cymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.