Contract: Parhaol, amser llawn
Oriau: 35 awr yr wythnos
Cyflog: £49,000 - £52,000 y flwyddyn
Lleoliad: Wedi'i angori i swyddfa Caerdydd. Bydd disgwyl i chi fod yn bresennol yn y swyddfa o leiaf un diwrnod yr wythnos.
Mae'r Pennaeth Materion Allanol yn rôl allweddol yn nhîm Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru sy'n gyfrifol am ddatblygu a chyflawni strategaeth materion allanol ddeinamig i sicrhau bod y materion sy'n effeithio ar ofalwyr di-dâl a'r gwasanaethau maen nhw'n dibynnu arnyn nhw yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, y Senedd a phartneriaid statudol allweddol eraill.
Mae ein Pennaeth Materion Allanol yn swydd uchel ei phroffil ac yn llefarydd effeithiol ar ran y sefydliad. Mae'n gweithio ochr yn ochr â'r cyfryngau, y trydydd sector a rhanddeiliaid allweddol eraill i godi ymwybyddiaeth o'r materion sy'n effeithio ar ofalwyr di-dâl a'r gwasanaethau maen nhw'n dibynnu arnyn nhw, ac i ennyn cefnogaeth ar eu cyfer.
Drwy'r rôl hon, byddwch yn ganolog i ddatblygu ein cenhadaeth drwy godi proffil a dylanwad y Rhwydwaith Ymddiriedolaeth Gofalwyr yng Nghymru, ymgyrchu i wireddu hawliau gofalwyr drwy ddarparu ymgyrchoedd yng Nghymru ac ar draws y DU, a llunio cynnwys o ansawdd uchel ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd.
I gael rhagor o wybodaeth am y rôl ac am Ymddiriedolaeth y Gofalwyr, llwythwch y dogfennau sydd wedi'u hatodi i lawr.