I hysbysebu eich swydd cysylltwch â tim.deeks@canopymedia.co.uk

Gwedd Fi Officer

Cyfeirnod:
VAC-5752
Sector:
Cyngor, Lles Cymdeithasol, cymuned, elusen
Ro'l y swydd
Swyddog
Cyflog:
£18,000 to £21,000 Y Flwyddyn
Oriau:
Rhan Amser
Tref/Dinas:
Caerdydd
Math o Gontract:
Tymor Sefydlog
Dyddiad Cau:
31/07/2026

Ynglyn â'r Swydd

Contract: Cyfnod penodol am 3 blynedd.

Oriau: Rhan amser – 3 diwrnod yr wythnos (0.6 FTE).

Salary: £18,000 - £21,000

Location: Hybrid ac 1 diwrnod yr wythnos yn swyddfa Ymddiriedolaeth Gofalwyr Caerdydd. Hyblygrwydd i weithio o swyddfeydd eraill Ymddiriedolaeth Gofalwyr ledled y DU pan fo angen.

Bydd y Swyddog Rhaglen, sy’n cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yn chwarae rhan ganolog yn nhîm rhaglenni Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, gan gydlynu a chyflwyno rhaglen beilot genedlaethol sy’n canolbwyntio ar wella’r broses o adnabod a chefnogi gofalwyr pobl y mae camddefnyddio sylweddau problemus yn effeithio arnynt.

Gan weithio ar y cyd â Phartneriaid Rhwydwaith, sefydliadau arbenigol, a gofalwyr, bydd y rôl yn sbarduno gweithio mewn partneriaeth, yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu adnoddau ac ymyriadau, ac yn sicrhau bod dysgu’n cael ei gofnodi a’i rannu ledled Cymru.

Bydd y Swyddog Rhaglen yn helpu i hwyluso hyfforddiant, gweithgarwch cydgynhyrchu, ac ymgysylltiad â rhanddeiliaid rhanbarthol a chenedlaethol i gryfhau’r cymorth sydd ar gael i’r grwp cudd hwn o ofalwyr.

Fel deiliad y swydd:

  • Cefnogi’r gwaith o gynllunio a chyflwyno sesiynau hyfforddi a mentora, gan alluogi staff Partneriaid Rhwydwaith i gynyddu eu gwybodaeth a’u hyder wrth gefnogi’r grwp o ofalwyr dan sylw.
  • Ymgysylltu’n uniongyrchol â gofalwyr i lywio’r gwaith o ddatblygu rhaglenni, gan sicrhau bod profiadau bywyd yn siapio adnoddau, cynigion cymorth ac allbynnau dysgu.
  • Goruchwylio’r gwaith o ddatblygu a phrofi offer, adnoddau ac ymyriadau cymorth gyda Phartneriaid Rhwydwaith sy’n cymryd rhan.

Lawrlwythwch y pecyn recriwtio ynghlwm i ddysgu rhagor.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl, cysylltwch â’n tîm recriwtio:

recruitment@carers.org

Cyfle Cyfartal 

Fel cyflogwr cyfle cyfartal, mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr wedi ymrwymo i drin pob gweithiwr presennol a darpar weithwyr yn gyfartal ac nid yw'n goddef gwahaniaethu ar sail oedran, anabledd, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil neu ethnigrwydd, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, neu briodas a phartneriaeth sifil.Rydym yn anelu at gael gweithle amrywiol a chynhwysol ac yn annog ymgeiswyr cymwys o ystod eang o gefndiroedd i wneud cais ac ymuno ag Ymddiriedolaeth  Gofalwyr.Darganfyddwch fwy am weithio i Ymddiriedolaeth Gofalwyr yma: Working for Carers Trust