I hysbysebu eich swydd cysylltwch â tim.deeks@canopymedia.co.uk

Swyddog Cymorth Grantiau

Cyfeirnod:
VAC-5634
Sector:
Cyngor, Cymorth am Elusennau a Gwirfoddoli, Lles Cymdeithasol, cymuned, elusen
Ro'l y swydd
Swyddog Cefnogi
Cyflog:
£27,101 to £32,323 Y Flwyddyn
Oriau:
Llawn Amser
Tref/Dinas:
Cymru
Math o Gontract:
Parhaol
Dyddiad Cau:
29/09/2025

Swyddog Cymorth Grantiau

Rydyn ni’n chwilio am chwaraewr tîm trefnus a brwdfrydig i ymuno â’n tîm grantiau fel Swyddog Cymorth Grantiau.

Mae hwn yn gyfle gwych i rywun sy’n chwilio am rôl sy’n helpu i gefnogi gweithgarwch cymunedol ar hyd a lled Cymru. Mae hefyd yn gyfle i unrhyw un sy’n mynd ati mewn modd cefnogol ac sy’n defnyddio ei synnwyr cyffredin i ddefnyddio eu sgiliau er da i helpu CGGC (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru) i gyflawni ei ddiben – i alluogi mudiadau gwirfoddol yng Nghymru i wneud mwy o wahaniaeth gyda’i gilydd.

Categori Cymraeg: Dymunol

Llawn amser, 35 awr yr wythnos yn hyblyg

£27,101 yn cynyddu i £32,323 y flwyddyn. Y cyflog cychwynnol fydd £27,101 a byddwch yn symud drwy’r amrediad cyflog yn unol â chwblhau’r cyfnod prawf a’n proses adolygu perfformiad yn llwyddiannus. Bydd cyfraniad o 9% o’r cyflog blynyddol yn cael ei roi yng nghynllun pensiwn cymeradwy CGGC.

Lleoliad: Yn CGGC, rydym yn croesawu gweithio hybrid a hyblyg. Mae ein staff yn gweithio’n hyblyg ar hyd a lled Cymru a bydd gennych chi’r opsiwn i weithio o bell (gan gynnwys gartref) neu yn ein canolfannau swyddfa yn Aberystwyth a Chaerdydd, a ledled Gogledd Cymru yn llogi mannau cymunedol bach i ddod â’r staff ynghyd. Bydd angen dod i’n swyddfeydd o bryd i’w gilydd ar gyfer digwyddiadau staff a galwadau gwaith penodol.

Ynglyn â’r rôl

Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio o fewn ein Tîm Grantiau cyfeillgar. Fel rhan o’r rôl, byddwch yn gweithio gydag ystod amrywiol o fudiadau gwirfoddol o bob rhan o Gymru, yn eu cefnogi i gyflawni prosiectau gwych.

Mae’r rôl yn berffaith i rywun sy’n chwilio am rôl brysur ond amrywiol. Os ydych chi’n mwynhau gweithio fel rhan o dîm a chyda sgiliau rheoli amser da, bydd y rôl werth chweil hon yn rhoi’r cyfle i chi weithio o'ch pen a'ch pastwn eich hun.

Bydd rhai o’ch prif ddyletswyddau yn cynnwys:

  • Siarad â darpar ymgeiswyr grant i bennu sut gallem gefnogi eu gweithgarwch
  • Gweithio fel rhan o dîm i gwblhau asesiadau ar geisiadau grant
  • Cefnogi portffolio o fudiadau, gan fynd ati mewn modd hyblyg i sicrhau bod y prosiectau yn cyflawni eu diben

Byddwch hefyd yn cael cyfleoedd i weithio gyda thimau a chyllidwyr eraill CGGC.

Mae’r swydd hon yn un amrywiol a chyflym tu hwnt; rôl wobrwyol i unigolyn trefnus ac uchel ei gymhelliant sy’n ffynnu mewn tîm ond hefyd yn gallu gweithio ar ei liwt ei hun.

Pam gweithio yn CGGC

Mae ein buddion staff yn cynnwys 25 diwrnod o wyliau â thâl ynghyd ag wyth gwyl banc a phum diwrnod disgresiwn, Cynllun Pensiwn Personol, Rhaglen Cymorth i Weithwyr, Cynllun Tâl Salwch uwch, gweithio hyblyg a chynllun arian gofal iechyd.

Rydym yn fudiad sy'n croesawu amrywiaeth. Mae gennym bolisïau rhagorol er mwyn cael cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, caiff gweithio hyblyg ei hybu, a’n diwylliant yw meithrin staff drwy arweinyddiaeth effeithiol a gwaith tîm rhagorol. Rydym yn falch o fod yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd.

Mae CGGC yn buddsoddi yn ei gyflogeion a'u datblygiad. Yn ogystal â bod yn Gyflogwr Cyflog Byw sy’n ymrwymedig i dalu'r cyflog byw gwirioneddol i staff, mae CGGC wedi derbyn achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl.

Rhagor o wybodaeth am weithio i CGGC.

Darllenwch y disgrifiad swydd llawn.

SUT I YMGEISIO

I ymgeisio, lawrlwythwch y pecyn cais isod:

Gwybodaeth ddefnyddiol

Hysbysiad preifatrwydd

Ffurflen gais

Ffurflen gais

Dyddiad cau: 29 Hydref 2025 – 10am

Dyddiad cyfweliad: 8 Hydref 2025

Croesawir ceisiadau Cymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.