Swyddog Cymorth Grantiau x2
Rydym yn chwilio am ddau Swyddog Cymorth Grantiau trefnus a hyblyg i ymuno â’n grwp Buddsoddi a helpu i ddarparu gwasanaeth grantiau rhagorol, teg a thryloyw. Bydd gennych brofiad o ddefnyddio systemau digidol a phrosesau gweinyddol, rheoli rhaglenni, prosiectau neu wasanaethau a chynnig cymorth clir, defnyddiol. Byddwch hefyd yn hyderus o ran gweithio gyda gwybodaeth ariannol, cynnal cofnodion cywir, cwrdd â dyddiadau cau a chyfrannu’n effeithiol fel rhan o dîm. Bydd sgiliau Cymraeg ar lefel ganolraddol neu uwch yn hanfodol ar gyfer un swydd ac yn ddymunol ar gyfer y llall.
Pam gweithio yn CGGC
Mae ein buddion staff yn cynnwys 25 diwrnod o wyliau â thâl ynghyd ag wyth gwyl banc a phum diwrnod disgresiwn, sy’n rhoi’r amser a’r cyfle i chi fagu nerth newydd. Cynllun Pensiwn Personol, Rhaglen Cymorth i Weithwyr, Cynllun Tâl Salwch uwch, gweithio hyblyg a chynllun arian gofal iechyd.
Rydym yn fudiad sy'n croesawu amrywiaeth. Mae gennym bolisïau rhagorol er mwyn cael cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, caiff gweithio hyblyg ei hybu, a’n diwylliant yw meithrin staff drwy arweinyddiaeth effeithiol a gwaith tîm rhagorol.
Mae CGGC yn buddsoddi yn ei gyflogeion a'u datblygiad. Yn ogystal â bod yn Gyflogwr Cyflog Byw sy’n ymrwymedig i dalu'r cyflog byw gwirioneddol i staff, mae CGGC wedi derbyn achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl. Rydym yn falch o ddweud ein bod wedi ein hardystio gan Great Place to Work (gwefan Saesneg yn unig), yr awdurdod byd-eang ar ddiwylliant y gweithle, gyda 90% o’n staff yn dweud bod CGGC yn lle gwych i weithio. Nid targed na dyhead mo hwn; dyma beth ddywedodd ein pobl.
O 7 Medi 2026, byddwn yn treialu wythnos waith pedwar diwrnod am gyfnod o 12 mis. Yn ystod y cyfnod hwn, ein patrwm gwaith fydd dydd Llun i ddydd Iau. Bydd rhagor o fanylion am y treial yn cael eu darparu yn ystod y broses recriwtio.
Amser llawn: 35 awr yr wythnos, hyblyg
Cyflog: CGGC Gradd C £27,914 yn codi i £29,043 y flwyddyn ar ôl cwblhau cyfnod prawf yn llwyddiannus.
Mae CGGC yn cyfrannu 9% o’ch cyflog blynyddol i’w gynllun pensiwn cymeradwy.
Lleoliad: Yn CGGC, rydym yn croesawu gweithio hybrid a hyblyg. Gyda staff yn gweithio’n hyblyg ledled Cymru, bydd gennych yr opsiwn i weithio o bell (gan gynnwys gartref) neu yn ein swyddfeydd yn Aberystwyth a Chaerdydd, ac mewn mannau cymunedol bach ledled Gogledd Cymru. Bydd angen bod yn ein swyddfeydd o bryd i’w gilydd ar gyfer digwyddiadau staff penodol ac ymrwymiadau gwaith.
Ynglyn â’r rôl
Byddwch chi’n gweithio fel Swyddog Cymorth Grantiau yn cefnogi’r gwaith o gyflawni rhaglenni grant CGGC ac yn helpu mudiadau gwirfoddol ledled Cymru i gael effaith bositif yn eu cymunedau. Byddwch yn asesu ceisiadau grant yn erbyn meini prawf cytunedig, yn cynnig cymorth rheng flaen i ymgeiswyr trwy e-bost, Teams a ffôn ac yn monitro’r mudiadau a gyllidwyd er mwyn helpu i sicrhau bod amodau’r grant a’r gofynion adrodd yn cael eu bodloni. Byddwch hefyd yn cynnal cofnodion cywir, cefnogi paneli asesu, helpu i baratoi adroddiadau a rheoli gwybodaeth ac yn cyfrannu at gyfathrebiadau dwyieithog sy’n hyrwyddo’r cronfeydd. Mae’r rôl yn gofyn am ymagwedd drefnus sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid, crebwyll cadarn a’r hyblygrwydd i ymateb i flaenoriaethau newidiol.
Darllenwch y disgrifiad swydd llawn.
Dyddiad cau: 20 Hydref 2026
Dyddiad cyfweliad: 3 /4 Tachwedd 2026
Croesawir ceisiadau Cymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.