Cyflog Blynyddol:
£25,870 i £28,621
Adran:
Gwasanaethau Cynghori
Arwain i:
Arweinydd Tîm
Lleoliad:
Y Barri
Math o gontract:
Parhaol
Oriau:
37 awr
Dyddiad cyfweliad: Dydd Mercher 23, Dydd Mawrth 24, Dydd Gwener 25 Medi 2026
Dyddiad cychwyn: Dydd Llun 26 Hydref
Amdanom ni
Mae Cyngor ar Bopeth Caerdydd a Bro Morgannwg yn elusen annibynnol ac yn aelod o rwydwaith Cyngor ar Bopeth Lleol. Rydym yn helpu pobl i ddatrys eu problemau cyfreithiol, ariannol a phroblemau eraill trwy ddarparu cyngor annibynnol, diduedd a chyfrinachol am ddim ar amrywiaeth o faterion. Cawn ein hariannu i ddarparu gwasanaethau i bobl yn yr ardal leol, yn ogystal â ledled Cymru a Lloegr.
Trosolwg rôl
Byddwch yn rhan o un o’n timau cynghorwyr cyffredinol, yn rhoi cyngor ar fudddaliadau, dyled, tai, cyflogaeth, mewnfudo, gwahaniaethu, teulu, a materion lles cymdeithasol. Mae ein timau yn amrywiol, gydag ystod o brofiadau, ac yn gweithio gyda'i gilydd yn ein swyddfa yn y Barri, gan roi cyngor i gleientiaid trwy apwyntiadau wyneb yn wyneb, dros y ffôn, e-bost a gwe-sgwrs. O bryd i'w gilydd, cynhelir apwyntiadau wyneb yn wyneb yn ein swyddfa yng Nghaerdydd ac yn ein lleoliadau cymunedol.
Am ragor o wybodaeth, darllenwch ein disgrifiad swydd.
Yn ystod eich hyfforddiant byddwch yn gweithio rhwng 9yb – 5yp. Mae’r llinell ffôn ar agor i gleientiaid rhwyng 8yb – 7yh, unwaith chi wedi cwblhau eich hyfforddiant, byddwch yn gweithio eich oriau wythnosol ar batrwm shifft o naill ai 8yb – 4yp, 9yb – 5yp neu 11yb – 7yh. Byddwn yn rhoi digon o rybudd I chi o’ch shifft. Bydd gofyn I chi hefyd gweithio ambell dydd Sadwrn rhwng 9yb – 1yp, a gallwch hawlio TOIL am hynny.
Sut i wneud cais
Llwythwch eich CV i www.cacv.org.uk
Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg.
Rydym hefyd yn cael ein hariannu i ddarparu cyngor yn Gymraeg. Felly, rydym yn recriwtio cynghorwyr sy’n siarad Cymraeg. Bydd siaradwyr Cymraeg rhugl yn derbyn £2,000 ychwanegol y flwyddyn yn dilyn asesiad o’u galluoedd a dechrau darparu gwasanaethau yn Gymraeg.
Ecwiti, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EACh)
Ein huchelgais yw gweithio gyda’n gilydd i hyrwyddo amgylchedd mwy cynhwysol sy’n denu pawb sydd â’r sgiliau a’r profiad cywir ac sy’n arwydd o’n hymrwymiad i ddathlu a hyrwyddo amrywiaeth.
Rydym wedi ymrwymo i drin yr holl weithwyr presennol a darpar gyflogeion yn gyfartal ac nid ydym yn cydoddef gwahaniaethu ar sail oedran, anabledd, rhyw, tueddfryd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil neu ethnigrwydd, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd, neu briodas a phartneriaeth sifil. Rydym eisiau bobl ddod â’u cyfuniad unigryw o brofiadau, cefndiroedd, safbwyntiau a gwybodaeth gan ein bod yn cydnabod bod amrywiaeth yn ein gwneud yn gryfach.
Ni allwn ddarparu nawdd o dan system fewnfudo seiliedig ar bwyntiau’r DU, gan nad oes gennym tystysgrif drwydded nawdd.
Cynllun Hyderus o ran Anabledd
Rydym yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Mae Hyderus o ran Anabledd yn fenter gan y llywodraeth i annog cyflogwyr i recriwtio a chadw pobl anabl a phobl â chyflyrau iechyd. Mae’n wirfoddol ac wedi’i ddatblygu gan gyflogwyr a chynrychiolwyr pobl anabl. Mae bod yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd yn golygu ein bod yn ymrwymo i:
Pob cam i fod yn gyflogwr Hyderus o ran AnableddCynnig o leiaf un gweithgaredd i gael y bobl iawn ar gyfer ein sefydliadO leiaf un gweithgaredd i gadw a datblygu ein poblYmgymryd a chwblhau'r hunanasesiad Hyderus o ran Anabledd yn llwyddiannus