Mae’r Swyddog Cyllid a Gweinyddu yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gefnogi iechyd ariannol Tai Pawb a bod popeth yn rhedeg yn esmwyth. Gan weithio’n agos gyda’r Prif Swyddog Gweithredol a’r Pennaeth Aelodaeth a Phartneriaethau, byddwch yn darparu cymorth ariannol a gweinyddol o ddydd i ddydd sy’n helpu’r sefydliad i weithredu’n effeithiol a chyflawni ei waith. Mae’r swydd hon yn addas iawn i rywun sy’n mwynhau gweithio gyda rhifau, systemau a phobl. Fe fyddwch yn drefnus, yn canolbwyntio ar fanylion ac yn rhagweithiol, gyda’r gallu i feithrin perthnasoedd gwaith dibynadwy â chydweithwyr a phartneriaid allanol.
Yn y swydd hon, byddwch yn cefnogi amrywiaeth o weithgareddau cyllid, gweinyddu a llywodraethu, gan gynnwys:
- Darparu cymorth ariannol o ddydd i ddydd, gan gynnwys cadw cyfrifon, codio treuliau, codi a phrosesu anfonebau, cydlynu a phrosesu cyflogres, a chadw cofnodion ariannol yn gywir ac yn gyfredol
- Cefnogi systemau a gweinyddiaeth gyffredinol y swyddfa, gan gynnwys archebu cyflenwadau, cadw cofnodion, a chynorthwyo gyda phrosesau iechyd a diogelwch ac adnoddau dynol
- Darparu cefnogaeth weinyddol ar gyfer digwyddiadau, hyfforddiant, gweithgareddau ymgynghori a chyfarfodydd
- Cefnogi prosesau llywodraethu, gan gynnwys trefnu a chofnodi cyfarfodydd chwarterol y bwrdd, cynorthwyo gyda'r archwiliad ariannol blynyddol, a helpu i gynnal trosolwg o bolisïau ariannol ac iechyd a diogelwch
- Cysylltu â chydweithwyr a darparwyr allanol megis cymorth TG, cyfrifwyr, archwilwyr a chynghorwyr cyfreithiol