I hysbysebu eich swydd cysylltwch â tim.deeks@canopymedia.co.uk

Cyfarwyddwr Polisi a Dylanwadu

Cyfeirnod:
VAC-5723
Sector:
Cyngor, Lles Cymdeithasol, cymuned, elusen
Ro'l y swydd
Cyfarwyddwr
Cyflog:
£68,441 to £75,045 Y Flwyddyn
Oriau:
Llawn Amser
Tref/Dinas:
Hybrid (Bae Caerdydd)
Math o Gontract:
Parhaol
Dyddiad Cau:
31/05/2026

Cyfarwyddwr Polisi a Dylanwadu
 

  • Cyflog: £68,441 to £75,045 y flwyddyn
  • Math o Gontract: Parhaol (Llawn- amser, 37 awr yr wythnos)
  • Lleoliad: Hybrid (Bae Caerdydd ac O Bell)


Dylanwadu ar ddyfodol pobl hyn yng Nghymru

Mae Comisiynydd Pobl Hyn Cymru yn chwilio am arweinydd profiadol i lywio gwaith y sefydliad drwy ddylanwadu’n strategol ar gyfeiriad polisi cenedlaethol yng Nghymru er mwyn gwella bywydau pobl hyn.

Fel Cyfarwyddwr Polisi a Dylanwadu, byddwch yn dylanwadu ar Gymru gyfan, gan sicrhau bod lleisiau pobl hyn yn cael eu clywed ar y materion sydd bwysicaf iddynt. Byddwch yn llunio ac yn cyflawni rhaglen waith strategol, yn meithrin cysylltiadau cryf ar draws y llywodraeth, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector, ac yn ysbrydoli ac arwain tîm i gyflwyno newidiadau polisi arloesol sy’n seiliedig ar dystiolaeth a phrofiadau go iawn pobl hyn.

Byddwch yn arweinydd polisi strategol gyda phrofiad o ddylanwadu ar bolisi cyhoeddus yn llwyddiannus a chyflawni newid ystyrlon. Byddwch yn dod â dealltwriaeth gynhwysfawr o dirwedd polisi Cymru a’r materion sy’n effeithio ar fywydau pobl hyn, a byddwch yn meddu ar sgiliau cyfathrebu ac arwain rhagorol. Ac yn fwy na dim, byddwch yn cael eich cymell i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl hyn ledled Cymru.

Gwnewch gais heddiw: https://comisiynyddph.cymru/amdano/swyddi-gwag/ neu cysylltwch â ni i drefnu sgwrs anffurfiol: recruitment@olderpeople.wales

Mae modd cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg, ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Dyddiad Cau: Dydd Sul 31 Mai 2026 23.59

Os byddwch chi ar y rhestr fer, mae’n rhaid i chi fod ar gael i ddod i gyfweliad ar:

Cyfweliad Cam Un: 12 Mehefin
Cyfweliad Cam Dau: 30 Mehefin neu 1 Gorffennaf
Cyfweliad Cam Tri: 6 Gorffennaf