I hysbysebu eich swydd cysylltwch â tim.deeks@canopymedia.co.uk

Swyddog Cymorth y Tîm Datblygu

Cyfeirnod:
VAC-5689
Sector:
Cyngor, Cymorth am Elusennau a Gwirfoddoli, Lles Cymdeithasol, cymuned, elusen
Ro'l y swydd
Swyddog Cefnogi
Cyflog:
£27,101 to £32,323 Y Flwyddyn
Oriau:
Llawn Amser
Tref/Dinas:
Aberystwyth,Cardiff,Rhyl
Math o Gontract:
Parhaol
Dyddiad Cau:
19/02/2026

Swyddog Cymorth y Tîm Datblygu

Rydym yn chwilio am unigolyn trefnus, rhagweithiol ac sy'n canolbwyntio ar bobl i ymuno â'n Grwp Cymorth fel Swyddog Cymorth y Tîm Datblygu.

Bydd y rôl hon yn addas i rywun sy'n mwynhau cydlynu prosiectau, meithrin perthnasoedd gwaith cryf, a chadw pethau'n rhedeg yn esmwyth y tu ôl i'r llenni. Byddwch chi y math o berson sy'n ymfalchïo mewn cywirdeb, yn cyfathrebu'n glir, ac yn ffynnu mewn amgylchedd prysur lle nad oes dau ddiwrnod yr un fath.

Os ydych chi'n mwynhau helpu eraill, yn rhoi sylw i fanylion, ac eisiau cefnogi gwaith sy'n cryfhau sefydliadau gwirfoddol ledled Cymru, gallai hon fod y rôl ddelfrydol i chi.

Pam gweithio gyda CGGC

Mae ein buddion staff yn cynnwys 25 diwrnod o wyliau â thâl ynghyd ag wyth gwyl banc a phum diwrnod disgresiwn, Cynllun Pensiwn Personol, Rhaglen Cymorth i Weithwyr, cynllun tâl salwch uwch, gweithio hyblyg a chynllun arian gofal iechyd.

Rydym yn fudiad sy'n croesawu amrywiaeth. Mae gennym bolisïau rhagorol er mwyn cael cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, caiff gweithio hyblyg ei hybu, a’n diwylliant yw meithrin staff drwy arweinyddiaeth effeithiol a gwaith tîm rhagorol.

Mae CGGC yn buddsoddi yn ei gyflogeion a'u datblygiad. Yn ogystal â bod yn Gyflogwr Cyflog Byw sy’n ymrwymedig i dalu'r cyflog byw gwirioneddol i staff, mae CGGC wedi derbyn achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl.

Rhagor o wybodaeth am weithio i CGGC.

Categori Cymraeg: Hanfodol

Lefel cymhwysedd iaith:  Sylfaen

Llawn amser, 35 awr yr wythnos yn hyblyg

£27,101 yn cynyddu i £32,323 y flwyddyn.

Mae CGGC yn cyfrannu 9% o’ch cyflog blynyddol i’w gynllun pensiwn cymeradwy.

Lleoliad: Yn CGGC, rydym yn croesawu gweithio hybrid a hyblyg. Mae ein staff yn gweithio’n hyblyg ar hyd a lled Cymru a bydd gennych chi’r opsiwn i weithio o bell (gan gynnwys gartref) neu yn ein canolfannau swyddfa yn Aberystwyth a Chaerdydd, a ledled Gogledd Cymru yn llogi mannau cymunedol bach i ddod â staff ynghyd. Nid oes unrhyw ddiwrnodau swyddfa gorfodol y tu hwnt i gyfarfodydd allweddol a gofynion penodol y tîm.

Ynglyn â’r rôl

Fel ein Swyddog Cymorth Tîm Datblygu, byddwch yn darparu cymorth gweinyddol, cydlynu a monitro hanfodol ar draws ein swyddogaethau gwirfoddoli, adnoddau cynaliadwy, a llywodraethu, gyda chysylltiadau â gwaith digidol a diogelu.

Byddwch yn gweithredu fel pwynt cyswllt allweddol ar gyfer ymholiadau gan ystod eang o randdeiliaid, gan sicrhau bod ymholiadau'n cael eu cofnodi, eu hateb neu eu cyfeirio'n briodol. Byddwch yn cefnogi'r gwaith o gyflwyno cyfarfodydd, digwyddiadau, sesiynau hyfforddi a gweminarau, gan helpu cydweithwyr i gynllunio, trefnu a chyflwyno gweithgareddau o ansawdd uchel.

Mae'r rôl hefyd yn cynnwys cynnal data cywir ar ein system rheoli cysylltiadau cwsmeriaid, cefnogi cyfathrebu a chyhoeddi cynnwys, a chynorthwyo gyda rhedeg ein llwyfannau digidol TSSW yn esmwyth, gan gynnwys Gwirfoddoli Cymru, Cyllido Cymru a'r Hwb Gwybodaeth.

Mae hwn yn gyfle i gyfrannu at waith sy'n galluogi sefydliadau gwirfoddol yng Nghymru i wneud gwahaniaeth mwy, wrth ddatblygu eich sgiliau ar draws gweinyddiaeth, cydlynu, systemau digidol a chymorth i randdeiliaid.

Disgrifiad Swydd

Dyddiad cau: 19 Chwefror 2026

Dyddiad cyfweliad: 4 Mawrth 2026

Cliciwch yma i wneud cais 

Croesawir ceisiadau Cymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.