
Swyddog Mewnwelediadau Data
Troi data yn weithredu dros sector gwirfoddol Cymru
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, sy’n chwilfrydig am bopeth sy’n ymwneud â data, i ymuno â ni fel ein Swyddog Mewnwelediadau Data. Byddwch yn chwarae rôl hanfodol mewn trawsnewid y ffordd rydym yn defnyddio data, gan ganolbwyntio i ddechrau ar ein Baromedr newydd i Sector Gwirfoddol Cymru (y Baromedr). Gan gael gafael ar dystiolaeth amserol a dibynadwy, bydd eich gwaith yn cynhyrchu mewnwelediadau pwerus o’r Baromedr, ochr yn ochr â’n platfformau presennol a ffynonellau allanol, ac yn mynd ati’n uniongyrchol i gefnogi ein cenhadaeth i ddylanwadu ar bolisïau cyhoeddus a chyflawni cymorth effeithiol ar draws y sector.
Mae’r rôl yn ddelfrydol i rywun sy’n mwynhau canfod ystyr mewn data a’i rannu mewn ffordd glir a diddorol ac eisiau i’w waith gael effaith go iawn mewn cymunedau ledled Cymru.
Swyddog Mewnwelediadau Data
Categori Cymraeg: Dymunol
Llawn amser, 35 awr yr wythnos yn hyblyg
£33,286 yn cynyddu i £37,464 y flwyddyn. Y cyflog cychwynnol fydd £33,286 a byddwch yn symud drwy’r amrediad cyflog yn unol â chwblhau’r cyfnod prawf a’n proses adolygu perfformiad yn llwyddiannus. Bydd cyfraniad o 9% o gyflog blynyddol y swydd yn cael ei roi yng nghynllun pensiwn cymeradwy CGGC.
Lleoliad: Yn CGGC, rydym yn croesawu gweithio hybrid a hyblyg. Mae ein staff yn gweithio’n hyblyg ar hyd a lled Cymru a bydd gennych chi’r opsiwn i weithio o bell (gan gynnwys gartref) neu yn ein canolfannau swyddfa yn Aberystwyth a Chaerdydd, a ledled Gogledd Cymru yn llogi mannau cymunedol bach i ddod â’r staff ynghyd. Bydd angen dod i’n swyddfeydd o bryd i’w gilydd ar gyfer digwyddiadau staff a galwadau gwaith penodol.
Ynglyn â’r rôl
Bydd y Swyddog Mewnwelediadau Data yn helpu CGGC i wella’r ffordd rydym yn casglu ac yn defnyddio data, gan ganolbwyntio i ddechrau ar Faromedr newydd Sector Gwirfoddol Cymru – adnodd arloesol i gael gafael ar dystiolaeth ddibynadwy am y sector yng Nghymru. Bydd y rôl hon hefyd yn gwella’r ffordd rydym yn defnyddio ac yn cwestiynu’r data o’n platfformau presennol, ynghyd â ffynonellau allanol, trwy gynhyrchu mewnwelediadau i gefnogi ein gwaith ar ddylanwadu ar bolisïau cyhoeddus a chyflawni cymorth effeithiol i’r sector.
Pam gweithio yn CGGC
Buddion: Mae’r rhain yn cynnwys 25 diwrnod o wyliau â thâl ynghyd ag wyth gwyl banc a phum diwrnod disgresiwn, Cynllun Pensiwn Personol, Rhaglen Cymorth i Weithwyr, Cynllun Tâl Salwch uwch, gweithio hyblyg, cynllun arian gofal iechyd.
Rydym yn fudiad sy'n croesawu amrywiaeth. Mae gennym bolisïau rhagorol er mwyn cael cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, caiff gweithio hyblyg ei hybu, a’n diwylliant yw meithrin staff drwy arweinyddiaeth effeithiol a gwaith tîm rhagorol. Rydym yn falch o fod yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd.
Mae CGGC yn buddsoddi yn ei gyflogeion a'u datblygiad. Yn ogystal â bod yn Gyflogwr Cyflog Byw sy’n ymrwymedig i dalu'r cyflog byw gwirioneddol i staff, mae CGGC wedi derbyn achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl.
Rhagor o wybodaeth am weithio i CGGC.
Darllenwch y disgrifiad swydd llawn https://www.recruit3.org.uk/downloads/baj/Job Description Data Insight Officer w.pdf
SUT I YMGEISIO
I ymgeisio, lawrlwythwch y pecyn cais isod:
Gwybodaeth ddefnyddiol https://www.recruit3.org.uk/downloads/baj/Useful Information Welsh 2025 C.pdf
Hysbysiad preifatrwydd https://www.recruit3.org.uk/downloads/baj/Recruitment Privacy Notice Welsh 2019 C.pdf
Ffurflen gais https://www.recruit3.org.uk/downloads/baj/WCVA Application Form (Welsh) 2023.docx
Dyddiad cau: 9 Medi 2025 – canol dydd
Dyddiad cyfweliad: 25 Medi 2025
Croesawir ceisiadau Cymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
![]() | ![]() | ![]() | ![]() |
