I hysbysebu eich swydd cysylltwch â tim.deeks@canopymedia.co.uk

Communications Officer

Cyfeirnod:
VAC-5746
Sector:
Cyngor, Cymorth am Elusennau a Gwirfoddoli, Lles Cymdeithasol, cymuned, elusen
Ro'l y swydd
Swyddog
Cyflog:
£20,000 to £23,000 Y Flwyddyn
Oriau:
Rhan Amser
Tref/Dinas:
Caerdydd
Math o Gontract:
Parhaol
Dyddiad Cau:
27/07/2026

Contract: Cytundeb parhaol, rhan-amser.

Oriau: 21 awr, 3 diwrnod yr wythnos.

Cyflog: £20,000 - £23,000

Lleoliad: Wedi’i seilio yn swyddfa Ymddiriedolaeth Gofalwyr yng Nghaerdydd 1–2 ddiwrnod yr wythnos. Hyblygrwydd i weithio o swyddfeydd eraill Ymddiriedolaeth Gofalwyr ledled y DU. Bydd y rôl hon yn gofyn am deithio achlysurol ar draws Cymru a rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig.

Gan weithio fel rhan o dîm Cymru, bydd deiliad y swydd yn arwain gweithgareddau cyfathrebu a marchnata ar gyfer y ddwy gronfa, gan sicrhau bod straeon gofalwyr, effaith y rhaglenni a chyfleoedd i dderbyn cymorth yn cael eu cyfathrebu'n effeithiol ledled Cymru. Bydd y rôl yn chwarae rhan allweddol wrth godi ymwybyddiaeth, ymgysylltu â rhanddeiliaid a phartneriaid cyflenwi, a dangos y gwahaniaeth y mae'r rhaglenni hyn yn ei wneud i fywydau gofalwyr di-dâl.

Bydd deiliad y swydd yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr Materion Allanol yng Nghymru a thîm Cyfathrebu a Marchnata Ymddiriedolaeth Gofalwyr ledled y DU i ddatblygu cynnwys digidol deniadol, sicrhau sylw yn y cyfryngau, cynhyrchu cyhoeddiadau a chydlynu gweithgarwch ar y cyfryngau cymdeithasol. Bydd hefyd yn cydlynu digwyddiadau dysgu ac ymgysylltu sy'n dod â phartneriaid ynghyd i rannu arferion da a chryfhau'r ddarpariaeth ledled Cymru.

Fel deiliad y swydd:

  • Gweithio gyda chyflenwyr allanol, gan gynnwys ffotograffwyr, dylunwyr, cyfieithwyr a fideograffwyr.
  • Arwain gweithgareddau cyfathrebu a marchnata ar gyfer Cronfa Seibiannau Byr a Chronfa Cymorth Gofalwyr yng Nghymru.
  • Cydlynu digwyddiadau dysgu, ymgysylltu a hyrwyddo ar gyfer rhanddeiliaid a phartneriaid.

Lawrlwythwch y pecyn recriwtio ynghlwm i ddysgu rhagor. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl, cysylltwch â’n tîm recriwtio: recruitment@carers.org

Equal Opportunities

As an equal opportunities' employer, Carers Trust is committed to the equal treatment of all current and prospective employees and does not condone discrimination on the basis of age, disability, sex, sexual orientation, pregnancy and maternity, race or ethnicity, religion or belief, gender identity, or marriage and civil partnership.

We aspire to have a diverse and inclusive workplace and strongly encourage suitably qualified applicants from a wide range of backgrounds to apply and join Carers Trust.

Find out more about Working for Carers Trust