I hysbysebu eich swydd cysylltwch â tim.deeks@canopymedia.co.uk

Nod recriwt3 yw canfod pobl ddawnus ac uchelgeisiol i weithio yn y trydydd sector yng Nghymru, a helpu pobl i ddod o hyd i swyddi sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn ym mywydau pobl.

Ceir tua 33,000 o fudiadau yn y trydydd sector yng Nghymru, gan gynnwys elusennau, grwpiau gwirfoddol, grwpiau cymunedol a mentrau cymdeithasol, ac amcangyfrifir ei fod yn werth tua £3.7bn i economi Cymru.

Mae’n cynnig cyflogau cystadleuol, oriau hyblyg a sbectrwm llawn o swyddi o blith amrywiaeth enfawr o achosion – o swyddi gweinyddol, gofalwyr a chodwyr arian, i swyddi uwch reoli a’r tu hwnt.

Mae recriwt3 yn eich helpu i ddod o hyd i’r swydd sy’n gweddu orau i chi drwy chwilio o fewn meysydd gwahanol yn y trydydd sector, megis iechyd meddwl, lles anifeiliaid, neu faterion amgylcheddol, neu gallwch chwilio yn ôl lleoliad, math o gontract neu rôl y swydd.

Gallwch hefyd gofrestru i gael hysbysiadau personol o swyddi a chael gwybod ar unwaith pan fo gan recriwt3 y swydd berffaith i chi!

Mae swyddi recriwt3 i’w gweld hefyd yn Network Jobs, a gylchredir ymysg y trydydd sector yng Nghymru ac yn The Big Issue Cymru.

Datblygir recriwt3 yng Nghymru ar y cyd rhwng CGGC a The Big Issue Cymru.