Newyddion o'r sector

Meini prawf newydd yn galluogi mwy o elusennau i fanteisio ar ostyngiadau Microsoft

Mae’n dda gennym gyhoeddi bod Microsoft, ar ôl trafodaethau manwl a gefnogwyd gan Swyddfa’r Cabinet, wedi cyflwyno meini prawf cymhwysedd newydd i elusennau fanteisio ar brisiau Elusennol (Academaidd) gostyngedig.

Y prif faen prawf yw y bydd prisiau elusennol yn cael eu cynnig i bob elusen gofrestredig, gyda nifer bach o eithriadau ar gyfer grwpiau penodol sy’n dod o dan gytundebau eraill.

Mae Microsoft wedi bod yn gefnogol iawn i’r sector, ac yn parhau felly, drwy gyfrwng y gostyngiadau a gynigia, ei raglen rhoddion ac ystod eang o weithgareddau cymunedol sy’n cefnogi rhaglenni yn y gymuned a phrosiectau lleol, gan alluogi mwy o bobl i gael gwell mynediad at dechnoleg.

Yn ychwanegol i’r dull trwyddedu traddodiadol i elusennau, mae Microsoft nawr yn cynnig trwyddedau tanysgrifio drwy gytundeb fframwaith PSA12 y Sector Cyhoeddus, i unrhyw elusen sydd â thros 100 o seddi ac sy’n cael dros 50% o gyllid gan y llywodraeth.

Bydd unrhyw aelod o WCVA nad yw’n gymwys i brynu prisiau Academaidd o dan y cytundeb newydd yn gallu parhau i wneud hynny tan i Gytundeb Select cyfredol Microsoft ddod i ben ar 30 Ebrill 2013.

Mae’r meini prawf cymhwysedd i’w gweld yma.



recriwt3

ar gyfer y swyddi gorau yn y trydydd sector yng Nghymru

  • Female Information Centre Support Worker

  • Newport
  • Cyflog: £19509 21 hours per week
  • Manylion
  • Housekeeper

  • Rhondda Cynon Taff
  • Cyflog: £7.00 per hour 16 per week
  • Manylion
  • Marketing and Communications

  • Swansea
  • Manylion
Big Issue Cymru Volunteering Wales